Pietro d'Abano

Oddi ar Wicipedia
Pietro d'Abano
Portread o Pietro d'Abano gan Justus van Gent a Pedro Berruguete (tua 1476).
Ganwydc. 1250 Edit this on Wikidata
Abano Terme Edit this on Wikidata
Bu farw1316 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, meddyg, athro cadeiriol, astroleg, seryddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MudiadSchool of Padua Edit this on Wikidata

Meddyg, athronydd naturiol, ac esoterydd Eidalaidd oedd Pietro d'Abano (Lladin: Petrus de Apono neu Petrus Aponensis (Pedr o Abano)[1]; 1250au1316).

Ganed yn Abano Terme, yng Nghomiwn Padova. Astudiodd yn gyntaf ym Mhrifysgol Padova. Aeth i'r Ymerodraeth Fysantaidd i ddysgu'r iaith Roeg, a thrigodd yng Nghaergystennin hyd at 1300, pryd teithiodd i Ffrainc i gyflawni ei astudiaethau ym Mhrifysgol Paris. Mae'n bosib iddo ysgrifennu ei draethawd Conciliator differentiarum philosophorum et praecipue medicorum ym Mharis. Dychwelodd Pietro i Brifysgol Padova ym 1307 ac yno fe addysgai athroniaeth a meddygaeth. Ymddiddorai hefyd mewn sêr-ddewiniaeth ac alcemi.

Enillodd enw mawr fel athro meddygaeth, ac o'r herwydd fe'i cyhuddwyd gan ei gyfoedion a genfigenasant wrtho o alw ar gythreuliaid i drin ei gleifion. Byddai'n ennyn ofnau'r Eglwys yn ogystal â'r athrawon eraill yn Padova, a galwyd Pietro gan y Chwilys ar amheuaeth ei fod yn eugredwr neu'n anffyddiwr am iddo wadu yr enedigaeth wyryfol a gwyrthiau'r Iesu. Cafwyd yn ddieuog yn yr achos cyntaf, o heresi, ond bu farw Pietro yn y ddalfa cyn iddo wynebu ei ail dreial. Rhyw ddeugain mlynedd wedi ei farwolaeth, fe'i cafwyd yn euog gan y Chwilys a chodwyd ei gorff o'r pridd er mwyn ei losgi.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. DeHaan, Richard (1997). "Abano, Pietro D'". In Johnston, Bernard (gol.). Collier's Encyclopedia (yn Saesneg). I A to Ameland (arg. First). New York, NY: P.F. Collier. tt. 6–7.
  2. (Saesneg) Loris Premuda, "Abano, Pietro D'", Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 3 Gorffennaf 2021.