Pierre Mauroy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pierre Mauroy
Pierre Mauroy


Cyfnod yn y swydd
22 Mai 1981 – 17 Gorffennaf 1984
Rhagflaenydd Raymond Barre
Olynydd Laurent Fabius

Geni 5 Gorffennaf 1928
Cartignies
Marw 7 Mehefin 2013
Clamart
Plaid wleidyddol Plaid Sosialaidd

Prif Weinidog Ffrainc rhwng 1981 a 1984 a gwleidyddol sosialydd oedd Pierre Mauroy (5 Gorffennaf 19287 Mehefin 2013). Bu hefyd yn Faer Lille rhwng 1973 a 2001. Bu farw o gansar yr ysgyfaint yn 84 oed. Galwyd Stadiwn Lille ar ei ôl: Stade Pierre-Mauroy.[1]

Cafodd ei ethol yn Brif Ysgrifennydd y Blaid Sosialaidd ym 1988, ac ymddiswyddodd ym 1992.

Cefndir cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Cartignies yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc. Tra'n athro, yn y 1950au, bu'n flaenllaw oddi fewn i Fudiad Sosialaidd yr Ieuenctid ac yna oddi fewn i undeb athrawon département (neu 'Ranbarth') Nord. Erbyn 1966 roedd yn un o arweinwyr plaid gweithwyr Ffrainc, y Section Française de l'Internationale Ouvrière, SFIO.

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Raymond Barre
Prif Weinidog Ffrainc
22 Mai 198117 Gorffennaf 1984
Olynydd:
Laurent Fabius

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]