Peter Goldsmith, Barwn Goldsmith
| Peter Goldsmith, Barwn Goldsmith | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Ionawr 1950 Lerpwl |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
| Swydd | Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Tad | Sydney Elland Goldsmith |
| Mam | Myra Nurick |
| Priod | Joy Elterman |
| Plant | Jamie Goldsmith, Charlotte Goldsmith, Jonathan Goldsmith, Benjamin Goldsmith |
Bargyfreithiwr a gwleidydd o Loegr yw Peter Henry Goldsmith, Baron Goldsmith, CC, QC, sy'n fwy adnabyddus dan ei deitl Yr Arglwydd Goldsmith (ganed 5 Ionawr 1950). Mae'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd fel Twrnai Cyffredinol o 11 Mehefin 2001 hyd 27 Mehefin 2007, pan ymddeolodd ar yr un diwrnod â'r Prif Weinidog, Tony Blair, a apwyntiodd Goldsmith yn 2001. Ei olynydd oedd Patricia Scotland, Barwnes Scotland o Asthal. Gwasanaethodd yr Arglwydd Goldsmith am dymor hirach nag unrhyw Dwrnai Cyffredinol Llafur arall erioed. Ar hyn o bryd mae'n gweithio am y cwmni o gyfreithwyr Americanaidd Debevoise & Plimpton fel ei brif gyfreithiwr yn Ewrop.[1]
Ganwyd Peter Goldsmith yn Lerpwl yn 1950, yn fab i rieni Iddewig. Cafodd yrfa ddadleuol fel Twrnai Gwladol dan Tony Blair. Ef a gynghorodd llywodraeth Blair fod Rhyfel Irac yn gyfreithlon. Yn ddiweddar mae wedi arwain think-tank ar hyrwyddo Prydeindod sy'n cefnogi syniad Gordon Brown o gael "Diwrnod Prydeindod" yn y DU.