P. B. Abery

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Percy Benzie Abery)
P. B. Abery
Mari o Glun. 1910au
Ganwyd20 Hydref 1876 Edit this on Wikidata
Sandgate Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1948 Edit this on Wikidata
Llanfair-ym-Muallt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Ffotograffydd oedd Percy Benzie Abery neu P. B. Abery (18771948); ganwyd yn Sandgate, Folkestone, Swydd Caint), a symudodd y teulu i "Groe Villa", Stryd yr Eglwys, Llanfair-ym-Muallt ym 1898. Sefydlodd Abery fusnes ffotograffiaeth bychan yn Llanfair-ym-Muallt pan oedd ond yn 21 oed. Priododd Kat Wenman o Folkstone yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair-ym-Muallt ym 1900, gan symud i "Holly House", y Stryd Fawr, ac ym 1911 fe symudodd i adeilad mwy, sef y West End Studio, lle'r arhosodd tan ei farwolaeth ym 1948.

Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y dre, cyfarfu a George Ethelbert Sayce a oedd hefyd yn symud i'r dref, ac a ddaeth ymhen amser yn olygydd a pherchennog y Brecon and Radnor Express, a fu'n gyfrwng cyhoeddi nifer o'i ffotograffau.

Yn yr haf, byddai P. B. Abery yn gwneud ei fywoliaeth wrth dynnu lluniau'r bobl a fyddai’n ymweld â ffynhonnau'r dref. Byddai’r ffotograffau'n cael eu harddangos y tu allan i'r siop fore trannoeth, a byddai twr o bobl yn ymgynnull yno i chwilio am luniau ohonynt eu hunain. Roedd P. B. Abery, hefyd, yn gyfrannwr cyson ar faterion amaeth a chwaraeon i'r papurau newydd dyddiol cenedlaethol a'r papurau newydd wythnosol.

Roedd P. B. Abery yn hoff iawn o’r awyr agored, a byddai wrth ei fodd yn crwydro’r wlad yn tynnu lluniau o olygfeydd a bywyd gwledig Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a'r Gororau. Pan gychwynnodd y Birmingham Water Works ar waith adeiladu’r argaeau yng Nghwm Elan, fe'i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol y cynllun. Ym mis Rhagfyr 1947, ychydig cyn ei farwolaeth, cynhaliwyd arddangosfa o luniau argaeau P. B. Abery yn y Birmingham Civic Centre.

Trosglwyddodd ei weddw gasgliad o ryw 2,000 o'i negyddion i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, sy'n cynnwys yn bennaf olygfeydd o'r Canolbarth a'r Gororau.

Casgliad Abery yn y Llyfrgell Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

P. B. Abery, Photographs of Radnorshire, 2008

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]