Pen-y-pass

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pen y Pas)
Jump to navigation Jump to search
Pen-y-pass
Pen-y-pass on a Sunny Day - geograph.org.uk - 242164.jpg
Math Bwlch, ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodol Parc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynol Bwlch Llanberis Edit this on Wikidata
Sir Eryri Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 360 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.0804°N 4.0214°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Snowdon Massif Edit this on Wikidata

Pen-y-pass neu Pen-y-pas yw'r man uchaf (360 m) ar y bwlch rhwng yr Wyddfa a'r Glyder Fawr yn Eryri. Mae'r briffordd A4086 yn croesi'r bwlch, ac yn dirwyn i lawr tua'r gogledd-orllewin trwy Fwlch Llanberis ac i'r de-ddwyrain i lawr i Ben-y-Gwryd.

Adeiladwyd ffordd yma gyntaf yn y 1830au i gario'r mwyn copr o'r cloddfeydd ar lethrau'r Wyddfa. Adeiladwyd Gwesty Gorffwysfa yma, sydd yn awr yn hostel ieuenctid. Ceir canolfan wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri yma, a maes parcio sylweddol o faint, ac mae'n le poblogaidd iawn i ddechrau'r daith i gopa'r Wyddfa, gan mai'r dyma'r man cychwyn uchaf ar gyfer yr Wyddfa. Gellir dewis Llwybr y Mwynwyr, Llwybr Pen-y-Gwryd neu'r llwybr anoddach dros gopa Crib Goch. Gellir hefyd ddringo'r Glyder Fawr oddi yma, ond y llwybrau o ochr arall y mynydd, yn enwedig o Gwm Idwal, yw dewis y rhan fwyaf i gyrraedd copa'r mynydd yma.