Peggy Abercamles
Peggy Abercamles | |
---|---|
Ganwyd | Llanymddyfri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwrachyddiaeth |
Gwrach neu "wraig hysbys" chwedlonol oedd Peggy Abercamles (neu Abergamlais) ac roedd yn byw yn ardal ardal Cilycwm ger Llanymddyfri.
Roedd Peggy Abercamles yn wrach o ardal Cil-y-cwm ger Llanymddyfri. Yn ôl y chwedl, roedd hi a’i brawd Wil yn aml yn cael eu gweld yn rhedeg o gwmpas yn y nos ar ffurf sgwarnogod.The Best Online Novels
Yn ôl un person o Flaennos (?), roedd Peggy, weithiau, yn ei chael hi'n anodd i reoli'r ysbrydion roedd wedi ei galw, ac un tro fe'i gwelodd yng nghanol cae, o fewn cylch amddiffynnol, gyda chwip yn ei llaw! www.gutenberg.org.
Abergamlais[golygu | golygu cod]
Mae Abergamlais (LD3 8EY) yn adeilad hynafol sydd wedi bod yn nhelu'r 'Williams' ers canrifoedd. Cyn i'r teulu ddefnyddio'r cyfenw Williams, yng nghyfnod Harri VIII, enw'r teulu oedd Bullen a Boulogne cyn hynny. Rhoddwyd y tiroedd i Syr Thomas de Boulogne o Ffrainc gan iddo ymladd gyda Wiliam I, brenin Lloegr (Gwilym y Gorchfygwr). Mae'r teulu'n berchen y tir a'r plasdy ers hynny. Enw'r perchenogion yn 2019 oedd Anthony ac Andrea Williams.