Pedwarawd piano
Gwedd
Ensemble cerddorol sy'n cynnwys pianydd a thri chwaraewr arall yw pedwarawd piano. Defnyddir yr enw hefyd i gyfeirio at gyfansoddiad a ysgrifennwyd i'w berfformio gan grŵp o'r fath. Fel arfer bydd y tri offeryn arall yn driawd llinynnol, sef ffidil, fiola a sielo. Cyfansoddwyd pedwarawdau piano ar gyfer y cyfuniad hwn gan Wolfgang Amadeus Mozart, Robert Schumann, Ludwig van Beethoven, Johannes Brahms, Antonín Dvořák, Gabriel Fauré ac eraill.