Antonín Dvořák

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Antonín Dvořák
Dvorak.jpg
Ganwyd 8 Medi 1841 Edit this on Wikidata
Nelahozeves Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Mai 1904 Edit this on Wikidata (62 oed)
Prag Edit this on Wikidata
Alma mater Pipe Organ School in Prague Edit this on Wikidata
Gwaith Cyfansoddwr, organydd, athro prifysgol, addysgwr, arweinydd, astudiwr cerddoriaeth Edit this on Wikidata
Cyflogwr Provisional Theatre, Church of Saint Adalbert, National Conservatory of Music of America, Prague Conservatory Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig Symphony No. 1, Symphony No. 9, Stabat Mater, Saint Ludmila, Requiem, Te Deum, Alfred, King and Charcoal Burner, The Stubborn Lovers, Vanda, The Cunning Peasant, Dimitrij, The Jacobin, The Devil and Kate, Rusalka, Armida, Cello Concerto, Slavonic Dances, Biblical Songs Edit this on Wikidata
Aelod o Academi Gelf a Gwyddoniaeth Serbia, Herrenhaus Edit this on Wikidata
Gwobr/au Order of the Iron Crown Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr Tsiec oedd Antonín Leopold Dvořák' ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (8 Medi 18411 Mai 1904). Gwnaeth ddefnydd helaeth o gerddoriaeth werin Morafia a'i ardal enedigol Bohemia, yn enwedig eu rhythmau cyfoethog.[1] Ei waith enwocaf, mae'n debyg, yw ei Nawfed Symffoni ('Symffoni'r Byd Newydd' a adnabydir hefyd fel 'O'r Byd Newydd').

Cychwynodd ganu'r ffidil yn chwech oed ac yn 1872 perfformiwyd ei waith yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym Mhrag. Deisyfodd gydnabyddiaeth a chynulleidfa ehangach, felly cystadleuodd mewn cystadleuaeth yn Berlin, ond nid enillodd (gyda'i symffoni cyntaf) a chollwyd y llawysgrif am rai blynyddoedd. Yn 1874 enillodd gystadleuaeth gyfansoddi Awstraidd ac eto yn 1876 ac 1877, gyda Brahms yn un o'r beirniaid. Rhoddodd Brahms eirda drosto i'w gyhoeddwr, Simrock, a aeth ati'n ddiymdroi i gomisiynnu'r 'Dawnsfeydd Slavonig Dances, Op. 46.

Yn ystod ei oes sgwennodd gyfanswm o ddeg opera, pob un gyda libreto yn yr iaith Tsiec, gydag ysbryd genedlaetholgar Tsiecaidd yn llifo drwyddynt. Ei opera mwyaf poblogaidd yw Rusalka.

Disgrifiwyd Dvořák fel "o bosib ... cyfansoddwr mwyaf ei oes".[2]

Perfformiad gan Virtual Philharmonic Orchestra (Reinhold Behringer) a rhannau digidol gan Garritan Personal Orchestra 4.

Trafferth chwarae'r ffeil hon? Gweler yr Adran Gymorth.

Gweithiau cerddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

"B1", "B2", "B3" ac ati = rhifau yng nghatalog Jarmil Burghauser o weithiau Dvořák[3]

Opera[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Alfred, B16 (1870)
  • Král a uhlíř ("Brenin a llowsgwr golosg") [fersiwn cyntaf], Op. 12, B21 (1871)
  • Král a uhlíř [ail fersiwn], Op. 14, B42, B151 (1874, 1887)
  • Tvrdé palice ("Y cariadon styfnig"), Op. 17, B46 (1874, 1887)
  • Vanda, Op. 25, B55 (1875)
  • Šelma sedlák (Y gwerinwr cyfrwys"), Op. 37, B67 (1877)
  • Balada Krále Matyáše ("Baled Brenin Mathéus"), Op. 14, B115 (1881)
  • Dimitrij, Op. 64, B127 (1881–2; 1894–5)
  • Jakobin ("Y Jacobin"), Op. 84, B159, B200 (1888, 1897)
  • Čert a Káča ("Y diafol a Cadi"), Op. 112, B201 (1898–9)
  • Rusalka, Op. 114, B203 (1900)
  • Armida, Op. 115, B206 (1902–3)

Corawl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Stabat Mater, Op. 58, B71 (1876–7)
  • Svatební košile ("Crysau priodas"; Saesneg: The Spectre's Bride), Op. 69, B135, cantata dramatig (1884)
  • Requiem, Op. 89, B165 (1890)
  • Svatá Ludmila ("Santes Ludmila"), Op. 71, B144, oratorio (1901)
  • Te Deum, Op. 103, B176 (1892)

Cerddorfaol[golygu | golygu cod y dudalen]

Symffonïau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Symffoni rhif 1 yn C leiaf, "Zlonické zvony" ("Clychau Zlonice"), Op. 3, B9 (1865)
  • Symffoni rhif 2 yn B, Op. 4, B12 (1865)
  • Symffoni rhif 3 yn E, Op. 10, B34 (1873)
  • Symffoni rhif 4 yn D leiaf, Op. 13, B41 (1874)
  • Symffoni rhif 5 yn F, Op. 76, B54 (1875)
  • Symffoni rhif 6 yn D, Op. 60, B112 (1880)
  • Symffoni rhif 7 yn D leiaf, Op. 70, B141 (1884–5)
  • Symffoni rhif 8 yn G, Op. 88, B163 (1889)
  • Symffoni rhif 9 yn E leiaf, " Z nového světa" ("O'r Byd Newydd"), Op. 95, B178 (1893)

Concerti[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Concerto i Biano yn G leiaf, Op. 33, B63 (1876)
  • Concerto i Feiolin yn A leiaf, Op. 53, B108 (1879, 1880)
  • Concerto i Sielo yn B leiaf, Op. 104, B191 (1894–5)

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Serenâd yn E i gerddorfa linynnol, Op. 22, B52 (1875)
  • Symfonické variace ("Amrywiadau symffonig"), Op. 78, B70 (1877)
  • Slovanské rapsodie ("Rhapsodi Slafonig"), Op. 45, B86 (1878)
  • Slovanské tance I ("Dawnsiau Slafonig"), Op. 46, B 83 (1878)
  • Česká suita ("Cyfres Tsiecaidd"), Op. 39, B93 (1879)
  • Domov můj ("Fy nghartref"), Op. 62, B125a, agorawd (1881–2)
  • Slovanské tance II ("Dawnsiau Slafonig"), Op. 72, B147 (1887)
  • V přírodě ("Yn natur"), Op. 91, B168, agorawd (1891)
  • Karneval" ("Carnifal"), Op. 92, B169, agorawd (1891)
  • Othello, Op. 93, B174, agorawd (1892)
  • Vodník ("Yr ysbryd dŵr"), Op. 107, B195, cathl symffonig (1896)
  • Polednice ("Dewines canolddydd"), Op. 108, B196, cathl symffonig (1896)
  • Zlatý kolovrat ("Y droell aur"), Op. 109, B197, cathl symffonig (1896)
  • Holoubek ("Colomen y coed"), Op. 110, B198, cathl symffonig (1896)
  • Píseň bohatýrská ("Cân arwrol") Op. 111, B199, cathl symffonig (1897)

Cerddoriaeth siambr[golygu | golygu cod y dudalen]

Offeryn unawd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhamant yn F leiaf i feiolin a phiano, Op. 11, B38 (1873–7)
  • Noctwrn yn B i feiolin a phiano, Op. 40, B 48 (1875–83)
  • Sonata i Feiolin yn F, Op. 57, B106 (1880)

Triawdau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Triawd Piano rhif 1 yn B, Op. 21, B51 (1875)
  • Triawd Piano rhif 2 yn G leiaf, Op. 26, B56 (1876)
  • Triawd Piano rhif 3 yn F leiaf, Op. 65, B130 (1883)
  • Triawd Piano rhif 4 yn E leiaf, "Dumky", Op. 90, B166 (1890–1)

Pedwarawdau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pedwarawd Llinynnol rhif 1 yn A, Op. 2, B8 (1862)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 2 yn B, B17 (1869)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 3 yn D, B18 (1869–70)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 4 yn E, B19 (1870)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 5 yn F leiaf, Op. 9, B37 (1873)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 6 yn A leiaf, Op. 12, B40 (1873)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 7 yn A leiaf, Op. 16, B45 (1874)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 8 yn E, Op. 80, B75 (1876)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 9 yn D leiaf, Op. 34, B75 (1877)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 10 yn E, "Slovanský" ("Slafonig"), Op. 51, B92 (1878–9)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 11 yn C, Op. 61, 121 (1881)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 12 yn F, "Americký" ("Americanaidd"), Op. 96, B179 (1893)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 13 yn G, Op. 106, B192 (1895)
  • Pedwarawd Llinynnol rhif 14 yn A, Op. 105, B193 (1895)
  • Pedwarawd Piano rhif 1 yn D, Op. 23, B53 (1875)
  • Pedwarawd Piano rhif 2 yn E, Op. 87, B162 (1875)

Pumawdau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pumawd Llinynnol rhif 1 yn A leiaf, Op. 1, B7 (1861)
  • Pumawd Llinynnol rhif 2 yn G, Op. 77, B49 (1875)
  • Pumawd Llinynnol rhif 3 yn E, "Americký" ("Americanaidd"), Op. 97, B180 (1893)
  • Pumawd Piano rhif 1 yn A, Op. 5, B28 (1872)
  • Pumawd Piano rhif 2 yn A, Op. 81, B155 (1887)

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Chwechawd Llinynnol yn A, Op. 48, B80 (1878)
  • Serenâd yn D leiaf i offerynnau chwyth, Op. 44, B77 (1877)

Piano[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Humoresky ("Hiwmoresgau"), Op. 101, B187 (1894)
  1. Clapham (1995), 765
  2. Taruskin (2010), 754
  3. Jarmil Burghauser, Antonin Dvořák: Thematický Katalog (Prag, 1960)