Gabriel Fauré
Gwedd
| Gabriel Fauré | |
|---|---|
| Ganwyd | Gabriel Urbain Fauré 12 Mai 1845 Pamiers |
| Bu farw | 4 Tachwedd 1924 Paris |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | academydd, cyfansoddwr, organydd, cerddolegydd, athro cerdd, athro, pianydd, côr-feistr |
| Swydd | cyfarwyddwr, côr-feistr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Requiem, Élégie, Piano Quintet No. 2 |
| Arddull | opera, cerddoriaeth ramantus, cerddoriaeth glasurol |
| Prif ddylanwad | Camille Saint-Saëns |
| Mudiad | cerddoriaeth ramantus, cerddoriaeth fynegiadol |
| Tad | Toussaint Fauré |
| Priod | Marie Fauré |
| Partner | Emma Bardac, Marguerite Hasselmans |
| Plant | Emmanuel Fauré-Frémiet, Philippe Fauré-Frémiet |
| Perthnasau | Emmanuel Frémiet |
| Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Q62096450 |
| llofnod | |

Cyfansoddwr a phianydd o Ffrainc oedd Gabriel Urbain Fauré (12 Mai 1845 – 4 Tachwedd 1924).
Fe'i ganwyd yn Pamiers, département Ariège, yn fab i Toussaint-Honoré Fauré (1810–85) a'i wraig Marie-Antoinette-Hélène Lalène-Laprade (1809–87). Roedd yn ddisgybl i'r cyfansoddwr Camille Saint-Saëns. Priododd Marie Fremiet yn 1883. Roedd ei fab Emmanuel Fauré-Fremiet (g. 1883) yn fiolegydd a'i fab Philippe (m. 1889) yn awdur Ffrengig.
Ymwelodd Fauré â Chymru tua Awst 1898. Ymwelodd â Chastell Llandochau a Phriordy Ewenni.[1]
Gweithiau cerddorol
[golygu | golygu cod]- Cantique de Jean Racine, op. 11 (1875)
- Élégie, op. 24 (1880)
- Requiem, op. 48 (1899)
- Pavane, op. 50 (1887)
- La bonne chanson, op. 61 (1892–4)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Appendix II: Letter to Elsie Swinton | European Travellers to Wales". etw.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 18 Mai 2025.