Park Güell

Oddi ar Wicipedia
Park Güell
Mathsculpture garden, parc Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEusebi Güell Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1926 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWorks of Antoni Gaudí Edit this on Wikidata
SirLa Salut Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd10.79 ha, 9.4 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.4136°N 2.1528°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolCatalan modernism Edit this on Wikidata
Statws treftadaethBien de Interés Cultural, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, public art in Barcelona, Bé cultural d'interès nacional Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtrencadís, serameg Edit this on Wikidata

Parc cyhoeddus o erddi ac elfennau pensaernïol ydy Park Güell (Catalan: Parc Güell) a leolwyd ar Allt Carmelo yn Barcelona, Catalwnia. Mae Allt neu Fryn Carmelo yn un o deulu o fryniau'r Sierra de Collserola sef y Parc del Carmel ac mae ar lethr bychan, yn wynebu'r gogledd ym maestref Gràcia, Barcelona. Gyda'r angen i drefoli'r ddinas, gofynnodd Eusebi Güell i Antoni Gaudí, i gynllunio'r parc ar ffurf ardaloedd preswyl Lloegr, a dyna pam y defnyddiwyd y sillafiad Saesneg "Park" yn hytrach na'r Catalan ("Parc"). Fe'i crewyd rhwng 1900 a 1914 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1926. Yn 1984 fe'i dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO dan y teitl "Gweithiau Antoni Gaudí". Yr arddull a ddefnyddiodd yma (ac yn nhrwch gweddil gweithiau Gaudí) yw Modernisme Catalwnia.[1]

Mae Park Güell yn perthyn i 'gyfnod naturiol' Gaudí, sef degawd cyntaf yr 20g. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd y pensaer ei arddull unigryw drwy sylwi ac astudio pethau organig byd natur a'u gweithredu o fewn strwythurau peirianeg ac adeiladwaith. Daeth Gaudí a chwa o awyr iach, rhyddid a meddwl newydd, fel artist wrth ei waith, i fyd llawn llinellau syth a diflas yr adeiladydd; daeth hiwmor lle bu confensiwn a rhyddid byw lle bu caethiwed y traddodiad clasurol. Gyda Pharc Güell, am y tro cyntaf, trodd ei syniadau a'i freuddwydion yn strwythurau ymarferol, real ac organig. Yr arddull newydd hwn a aeddfedodd yn ddiweddarach i greu un o bencampweithiau mwya'r byd: y Sagrada Família.

Canol Park Güell

Güell a Gaudí a genhedlodd ar y parc hwn, o fewn parc naturiol gwirioneddol brydferth. Dychmygodd y ddau gasgliad taclus o gartrefi o ansawdd uchel, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf ym mhob un, a fflach o artistri i'w gorffen.[2] Dychmygodd y ddau hefyd symboliaeth yn rhan bwysig oddi fewn i'r gymuned; roeddent yn dymuno cyflwyno delfydau'r oes yn weledol, yn enwedig gwleidyddiaeth y Catalan. Gwelir hyn yng ngrisiau'r fynedfa, ble mae rhanbarthau Catalan wedi'u gosod mewn lle tra phwysig, a Phabyddiaeth - y Monumento al Calvario - a fwriadwyd yn wreiddiol ei defnyddio fel capel. Ceir llawer o elfennau mytholegol, a rhoddir lle blaenllaw i'r rhain hefyd; y prif ysbrydoliaeth i Güell a Gaudí oedd Teml Apollo o Delfos.

Eusebi Güell a'i ddau bensaer: Joan Martorell ac Antoni Gaudí[golygu | golygu cod]

Cychwynodd y berthynas rhwng yr entrepreneur Eusebi Güell a'r pensaer Antoni Gaudí pan welodd Güell arddangosfa mewn ffenestr - arddangosfa o gynllun roedd Gaudí wedi'i greu ar gyfer y gwerthwr menyg Esteve Comella yn yr Universal Exhibition ym Mharis yn 1878. Comisiynodd Güell ef i wneud dodrefn i gapel y pantheon yn y Palau de Sobrellano yn Comillas, ar gyfer ei dad-yng-nghyfraith Antonio López y López. Pensaer y capel neo-gothic hwnnw oedd Joan Martorell i Montells, ac o'i stiwdio ef y gweithiai Gaudí.[3]

Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach trodd Joan Martorell at Gaudí a'i gomisiynu i gynllunio pafiliwn a stablau ar gyfer Finca Güell (1883-1887) yn Les Corts, yng ngorllewin Barcelona. Roedd hyn yn cadarnhau eu cyfeillgarwch. Roedd Martorell yn un o besaeri enwocaf y genedl y pryd hwn ac roedd Gaudí yn ei ystyried fel ei feistr, a chafodd ddylanwad aruthrol ar ei was.

Yn 1886 gofynnodd Eusebi Güell i Gaudí godi tŷ newydd iddo, y Palau Güell yn heol Nou de la Rambla yn yr hen dref. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach - yn 1895 adeiladodd Gaudí adeilad mewn gwinllan yn Swydd Garraf ar y cyd gyda Francesc Berenguer. Yn 1898 cynlluniodd eglwys ar gyfer Colònia Güell, yn gartref i'w weithwyr ar ei ffatri tecstiliau anferthol ar ymylon Barcelona. Yn 1900 rhoddwyd aseiniad mwy na'r un arall iddo - sef cynllunio Park Güell. Tyfodd y cyfeillgarwch rhwng Güella a Gaudí gan fyw mewn dau dŷ yn y parc, yn agos at ei gilydd.

Yn ystod eu hoes, gwesant y parc yn troi i fod yn un o brif atyniadau ymwelwyr yng Nghatalwnia; ac ymfalchient fod sgwâr y parc yn cael ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau cenedlaetholgar, Catalwnaidd gan gynnwys dawnsio 'sardna' traddodiadol, a digwyddiadau dinesig, swyddogol yn ogystal â gwyliau cymdeithasol.

Modernisme yng Nghatalwnia[golygu | golygu cod]

Mae Modernisme o fewn diwylliant y Catalan yn gyfystyr ag un enw: Gaudí. Mew gwledydd eraill defnyddir y termau / mudiadau canlynol: Sezession, Liberty, Jugendstil neu art nouveau. Ond yn wahanol i'r mudiadau eraill yma, roedd Modernisme yn cyfeirio nid yn unig at adfywiad o estheteg ond hefyd yn adfywiad o iaith a diwylliant Catalwnia ei hun, gan yn wir foderneiddio'r diwylliant hwnnw. Daeth Barcelona'n ganolbwynt i'r adfywiad hwnnw.

Roedd yr Arddangosfa Fyd-eang (Universal Exhibition) a gafwyd yn 1888 yn llwyfan gwerth chweil a ddangosod i wledydd Ewrop mor loyw a safonol oedd yr adfywiad celf a diwylliant yng Nghatalwnia. Yma, roedd ymddangosodd ysbryd cosmopolitan art neauveau mewn gweithiau modern, newydd a oedd wedi'i seilio'n solad yn yr hen draddodiadau.

Lleoliad a chyfyngiadau cynllunio[golygu | golygu cod]

Mae'r lleoliad ar lethr, sef ochr bryncyn a elwir yn Muntanya Pelada ney "Fynydd Moel" - lleoliad arbennig o brydferth gyda golygfa o'r môr a 'Gwastatir Barcelona'. Y bwriad oedd creu 60 o dai safonol ar leiniau trionglog, gyda rhwydwaith cynhleth o lwybrau'n plethu rhyngddynt. Ond roedd yr amodau cynllunio dinesig yn rhwystr rhag gwireddu'r freuddwyd:

  • roedd yn rhaid i arwynebedd pob tŷ fod yn llai na 1/6ed y llain
  • roedd yn rhaid i'w huchder ganiatau i bob cymydog gael golygfa o'r môr a golau llawn (heb dai'n cuddio golau unrhyw gymydog

Roedd Gaudí'n parchu'r planhigion a dyfai yno a defnyddiodd blanhigion Canoldirol nad ynt angen llawer o ddŵr; creodd system i gronni dŵr ar gyfer y tai a sicrhaodd ei gynlluniau nad oedd y tiroedd yn cael eu herydu gan y glawogydd trymion, a digonedd o ddŵr i'r tai.

Oherwydd y cyfyngiadau, rhoddwyd y gorau i'r syniad o godi tai yn 1914, gyda dim ond dau dŷ wedi'u codi. Trodd yn barc, a a daeth yn atynfa i ymwelwyr.

Newid y cynlluniau[golygu | golygu cod]

Torrwyd y dywarchen gyntaf yn Hydref 1900, pan rannwyd y tir i wahanol lefeloedd ac erbyn Ionawr 1903 (fel y nodwyd yn y Anuari de l’Associació d’Arquitectes (Llyfr Blynyddol Cymdeithas y Pensaeri) safai dau bafilwn: un ar bob mynedfa, yn ogystal â'r prif set o risiau ynghŷd â chysgod i gerbydau ceffyl a dyfrbont. Erbyn 1907 roedd nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal yno, ac roedd yr 'ystafell golofnog' wedi'i cwbwlhau.

Prynwyd y llain cyntaf o dir i godi tŷ yn 1902 gan gyfaill Güell, sef y cyfreithiwr Martí Trias i Domènech, a gomisiynodd y pensaer Juli Batllevell i godi fila. Ar yr un pryd, cododd y peiriannydd Josep Pardo i Casanovas, dŷ enghreifftiol wedi'i gynllunio gan gymorthydd Gaudí, sef Francesc Berenguer, er mwyn hybu gwerthiant y tai eraill. Symudodd Gaudí ei hun i fyw yno yn 1906, gyda'i dad a'i nith.

Bu farw Eusebi Güell yn ei dŷ yn 1918, ac fe'i gwerthwyd i Gyngor y Ddinas gan ei ddisgynyddion ar 26 Mai 1922. Yn 1926 agorodd fel parc cyhoeddus.

Panoràmica de l'entrada del Park Güell.

Y parc heddiw[golygu | golygu cod]

Addaswyd tŷ Güell yn ysgol, ac fe'i henwyd ar ôl yr athro Baldiri Reixac, a throwyd y rhan ar y chwith iddo'n ardd flodau gan y Cyngor. Agorwyd tŷ Gaudi fel amgueddfa ar gyfer y cyhoedd yn 1963. Ers 2013 mae'r mynediad am ddim i'r prif barc ond codir am y prif lefydd unigol megis cartref Gaudí.

Mae un o'r adeiladau'n cynnwys arddangosfa barhaol, sef Amguaddfa Hanes Dinas Barcelona (MUHBA) sy'n canolbwyntio ar yr adeilad ei hun, y parc ac i raddau ar y ddinas.[4][5]

Y prif ffocws, neu ganolbwynt, ydy'r prif deras, gyda'i neidr-ddŵr hir sydd hefyd yn fainc i eistedd arni. Gan ei bod yn grom ac yn troelli, ceir nifer o rannau cyfrin, lle gellir cael sgwrs breifat neu gariadus. Ynghlwm yn y fainc yma mae llawer o symbolau o genedlaetholdeb Catalwnia, a rhai'n ymwneud â chrefydd, cyfriniaeth a hen farddoniaeth ei genedl.

Ceir ffyrdd a llwybrau o amgylch y parc, er mwyn gwasanaethu'r tai a'r adeiladau, a lluniwyd y rhain gan Gaudí: maent yn strwythurau diddorol sy'n bochio allan o'r allt serth mewn ffyrdd dramatig, neu'n rhedeg ar hyd neu o dan y draphont.

Roedd hyn yn lleihau'r ymwythiad annaturiol o gael ffyrdd yn creithio'r parc, ac fe'u cynlluniwyd gan Gaudí i'w creu gyda charreg o'r parc ei hun, ac felly roeddent yn cydweddu â'r amgylchedd. Mae ei ffurfiau'n adleisio ffurfiau byd natur, bron yn ddieithriad, e.e. colofnau ar ffurf bonion coed neu ganghennau'n cynnal to neu lwybr troed yn debyg i'r hyn a wnaeth yn eglwys Colònia Güell.[6]

Ar y copa eitha, gosodwyd croes fawr, ac oddi yno gellir gweld y ddinas, y môr a'r bae, ac mae'r Sagrada Família a Montjuïc hefyd i'w geld. ceir yn y parc amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt; mae'r parot yn enghraifft dda o rywogaeth annaturiol sydd wedi mabwysiadu'r parc mewn modd cwbwl naturiol. Mae'r eryr bodiau-bychan a'r gwyfyn Macroglossum stellatarum hefyd wedi mabwysiadu'r parc yn gynefin naturiol.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan MUHBA; adalwyd 3 Hydref 2014
  2. Zimmermann, Robert (2002), The Best of Gaudí, http://www.sola-sole.com/bgaudi.pdf, adalwyd 2014-10-02
  3. Gwefan swyddogol Park Güell; adalwyd 02 Medi 2014
  4. "MUHBA Park Güell". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-25. Cyrchwyd 2014-10-02.
  5. Virtual tour of MUHBA Park Güell
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-12. Cyrchwyd 2014-10-03.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: