Parc y Rhath

Oddi ar Wicipedia
Parc y Rhath
Mathparc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCyncoed, Y Rhath Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5064°N 3.1751°W Edit this on Wikidata
Map

Parc mwyaf poblogaidd Caerdydd yw Parc y Rhath (Saesneg: Roath Park), sy'n dal i fod îa awyrgylch yr Oes Fictoria ac amrywiaeth eang o gyfleusterau. Derbyniodd y parc wobr anrhydeddus Gwobr y Faner Werdd yn diweddar, i gydnabod ansawdd uchel Parc y Rhath a'i bwysigrwydd i Gaerdydd. Mae Parc y Rhath yn llawn diddordebau hanesyddol a garddwriaethol, mae gan ardaloedd gwahanol y parc amryw eang o amgylcheddau.

Adeiladwyd y parc ar 130 acer o hen dir cors, a adnabyddwyd gynt fel y cors malarïaidd. Mae'n cynnyws llyn 30 acer (1.3 milltir o'i chwmpas) a ffurfiwyd gan adeiladu argae ar draws Nant Fawr. Mae'r llyn yn boblogaidd gyda rhwyfwyr a physgotwyr. Mae pedair ynys o fewn ardal gwarchod y llyn, ym mhen uchaf y llyn i'r gogledd-orllewin, mae rhain yn gartref i nifer fawr o adair dŵr. Mae'r prif ran o'r parc yn cynnwys maes chwarae mawr, arddangosiadau blodau, tŷ gwydr enwog a thir adlonianol i'r de.

Mae Parc y Rhath yn ymetyn o Cyncoed i'r gogledd at y Rhath i'r de-ddwyddrain. Caiff y parc ei rannu'n sawl rhan gan Nant y Rhath a Nant Fawr. O'r gogledd i'r de; Y Gerddi Gwyllt, Llyn Parc y Rhath, Gerddi Botanegol, Gerddi Rhosod, Gerddi Pleser, Tir Adloniadol Parc y Rhath, Gerddi Nant y Rhath, Gerddi Melin y Rhath a Gerddi Waterloo.

Mae'r parc yn eiddo i Gyngor Sir Caerdydd ac yn cal ei reoli gan eu adran parciau.

Llyn cychod Parc y Rhath
Coed ym Mharc y Rhath
Goleudy Parc y Rhath
Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato