Parc le Breos Cwm
Delwedd:Parc Cwm, Gwyr - elevated.JPG, Parc le Breos, Gwyr yr ogof cathole.JPG | |
Math | siambr gladdu, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Sir | Melin y Parc |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5885°N 4.1127°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM122 |
Siambr gladdu Neolithig yng nghymuned Llanilltud Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr yw Parc le Breos Cwm neu carn hir Parc Cwm, sydd ymhlith yr adeiladau hynaf i'w codi yng ngwledydd Prydain: 1,300 o flynyddoedd cyn Côr y Cewri. Saif yn Nghoed y Parc Cwm, tua 13 km i'r gorllewin o Abertawe.
Mae'n feddrod o'r math Hafren-Cotswold, gyda charnedd hirswgar o gerrig yn cael ei hamgau gan wal gerrig. Ceir blaengwrt ar ffurf cloch, yn wynebu i'r de, yn arwain ar fynedfa gyda dau bâr o siamberi.
Ail-ddarganfuwyd y beddrod yn 1869, gan weithwyr yn cloddio cerrig ar gyfer gwaith ar y ffyrdd. Cloddiwyd yno y flwyddyn honno, a chafwyd hyd i esgyrn dynol, yn cynrychioli gweddillion dros 40 o bobl. Cloddiwyd yma eto yn 1937 dan arweiniad Glyn Daniel.
Cerfiad o garw Llychlyn yn Cathole Cave ger y gromlech yw'r darn hynaf o gelf graig ym Mhrydain, wedi ei greu o leiaf 14,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Gower cave reindeer carving is Britain's oldest rock art. BBC (29 Mehefin 2012). Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Steve Burrow Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000-3000 CC. (Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2006)
Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru | ||
---|---|---|