Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston
Gwedd
![]() | |
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, parc gwledig ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4152°N 3.1867°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Lleolir Parc Gwledig Llynnoedd Cosmeston (Saesneg: Cosmeston Lakes Country Park), a adnabyddir fel rheol fel Llynnoedd Cosmeston, yn nwyrain Bro Morgannwg, tua phum milltir i'r gorllewin o ddinas Caerdydd rhwng Penarth a'r Sili.
Mae'r parc yn cynnwys dros 100 hectar. Ceir llyn mawr yng nghanol y parc gyda phyllau eraill, gwlybtiroedd a choed o'i gwmpas. Ger y llyn mwyaf darganfuwyd safle pentref canoloesol. Ar gwr dwyreiniol y parc ceir maes criced Clwb Criced Morgannwg.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/Swans_at_Comeston_Lakes_Country_Park_%28geograph_232385%29.jpg/250px-Swans_at_Comeston_Lakes_Country_Park_%28geograph_232385%29.jpg)
Mae hanes y llynnoedd sy'n ganolbwynt i'r parc yn cychwyn gyda datblygu chwareli calchfaen yno yn y 1890au. Peidiodd y gwaith yn 1970. Llenwyd rhai o'r pyllau gan ffynonellau naturiol i greu llynnoedd. Cafodd y tipiau gwastraff eu tirweddu wedyn.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- Tudalen swyddogol Archifwyd 2011-06-08 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Cyngor Sir Bro Morgannwg