Pam Fi Duw? (cyfres deledu)
| Pam Fi Duw? | |
|---|---|
| |
| Genre | Drama |
| Serennu | Hefin Rees Eirlys Britton Brian Hibbard Geraint Todd |
| Gwlad/gwladwriaeth | |
| Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
| Nifer cyfresi | 5 (6ed heb ei ddarlledu) |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 30 munud (gyda hysbysebion) |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Darllediad gwreiddiol | 23 Ionawr 1997 – 22 Mawrth 2001 |

Cyfres ddrama deledu Gymraeg ar S4C ar gyfer pobl ifanc oedd Pam Fi Duw?. Roedd yn seiliedig ar y nofel Pam Fi, Duw, Pam Fi? gan John Owen, ac yn olrhain hanes a helyntion Rhys a’i deulu a'i ffrindiau yn Ysgol Glyn Rhedyn, yng Nghymoedd De Cymru wrth iddynt gychwyn ym mlwyddyn 10 ac ar eu cyrsiau TGAU. Cynhyrchwyd y gyfres gan HTV Cymru. Comisiynwyd 6 cyfres rhwng 1997 a 2001, ond ni chafodd y chweched cyfres ei ddarlledu, yn sgil arestio'r awdur a'r cyfarwyddwr John Owen yn 2001, ar gyhuddiadau o gam-drin plant.[1][2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Prif Gast
[golygu | golygu cod]- Rhys - Hefin Rees
- Pegi - Eirlys Britton
- Deryck - Brian Hibbard
- Muriel - Menna Trussler
- Ifs - Geraint Todd
- Cwcw - Gareth Jewell
- Sara - Lucy Rich
- Clive - Frank Vickery
Cast Cefnogol
[golygu | golygu cod]- Sharon - Kelly Thomas
- Spikey - Christopher Glanville
- Rhids - Huw Rees
- Billy - Chris Evans
- Llinos - Angharad Devoland
- Bollacs - Kristian Orton
- Gareth - Hywel John Walker
- Medi - Elizabeth Mainwaring
- Stephanie - Sarah Jones
- Lowri - Siriol Williams
- Shadow - Griff Williams
- Soffocleese - Huw Emlyn
- Achtwng - Clêr Stephens
- Prys Olivier - Gareth Potter
- Andrew Bechadur - Nic Ros
- Rhianwen Lewis - Rosalyn James
- Cariwso - Geraint Eckley
- Krakatoa - Gwynhaf Davies
- Waldo - Rhodri Davies
- Racca -
- Esyllt ap Einion - Elen Salisbury
- Dymps - Andrew Rogers
- Ellins - Andrew Llywelyn
- Prîsî - Gavin Preece
- Spans - Craig Spanswick
- Gwenllian - Lea Manon Jones
- Susan - Delyth Caffrey
- Ann - Sara Bunyan
- Dom Criws - Lee Haven Jones
- Gobshite - Dan Burston
- Raz - Becky Thomas
- Kylie - Gemma Jones
Cefndir
[golygu | golygu cod]Wedi ymddiswyddiad John Owen fel athro drama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym mis Ionawr 1991, yn dilyn sawl cyhuddiad o gamdrin rhywiol gan rai o ddisgyblion yr ysgol, ni chafodd Owen ei ddisgyblu nac ychwaith ei erlyn.[3] Wedi derbyn y cyhuddiadau cyntaf gan y plant yn Ionawr 1991, ni chysylltodd yr awdurdodau addysg lleol â'r heddlu. Nodwyd yn Adroddiad Clywch a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn 2004, bod yr awdurdod addysg lleol wedi "ymrwymo na fyddai'n wynebu cyhuddiadau disgyblu petai'n ymddiswyddo" a bod hynny wedi'i wireddu.[4]
Daeth yr heddlu i'r casgliad "bod tystiolaeth ddigonol i brofi bod Mr Owen wedi troseddu o dan adran 1 Deddf Anwedduster â phlant 1961". Trosglwyddwyd y wybodaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron, ond fe benderfynwyd "peidio ag erlyn gan nad oedd, yn ei barn hwy, debygolrwydd digonol o sicrhau collfarn o ystyried y posibilrwydd o gyfiawnhad dramatig"[4]
Rhwng 1991 a 1997, cyfansoddodd John Owen amrywiaeth o ddramâu ar gyfer S4C a BBC Radio Cymru gan gynnwys y nofel Pam Fi, Duw, Pam Fi? [Y Lolfa 1994]. Ym 1996, comisiynodd S4C gyfres deledu gan Owen yn seiliedig ar y nofel, i'w chynhyrchu gan HTV. Nodwyd yn Adroddiad Clywch "Am ba reswm bynnag ni rannodd yr awdurdod addysg lleol y wybodaeth am yr honiadau difrifol o gam-drin plant yn erbyn Mr Owen gyda HTV nac S4C, na gyda chynhyrchwyr Pam Fi Duw?' er eu bod yn gwybod am honiadau’r plant a’r athrawon a bod y wybodaeth honno yn eu meddiant, ac er y bwriadwyd ffilmio’r gyfres yn un o’i ysgolion. Mae’n gwestiwn gennyf a fyddai’r ffilmio wedi mynd rhagddo neu wedi parhau pe bai manylion yr honiadau wedi cael eu rhannu."[4]
Nodwyd hefyd yn glir yn yr Adroddiad "Ni chynhyrchwyd unrhyw dystiolaeth yn fy Ymchwiliad i unrhyw blentyn a berfformiodd yn Pam Fi Duw? gael ei gam-drin".[4]
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Lleolwyd y gyfres mewn ysgol ddychmygol [Ysgol Glyn Rhedyn] ac roedd plant a recriwtiwyd o bob cwr o Gymru yn actio ynddi.[4] Ffilmiwyd y gyfres yn Ysgol y Cymer yn y Rhondda gyda phlant 10 oed neu’n hŷn. Roedd Pennaeth Ysgol Y Cymer ar y pryd, Eirlys Pritchard Jones, yn adnabod John Owen ers bod yn dysgu gydag ef yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.[4]
Nodwyd yn Adroddiad Clywch bod John Owen wedi dechrau fel awdur Pam Fi Duw? "...er i’w rôl fynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwyliwyd fel arfer gan awdur. Roedd ar y set bob dydd ac yn weithredol iawn o ran cyfarwyddo. O’r cychwyn "roedd yn llawer mwy nag ysgrifennwr sgriptiau, roedd yno’n hyfforddi’r plentyn neu’r person ifanc gyda’u hactio...ac yn amgylchynu ei hun gyda chylch o bobl ifanc" ", dyfynodd Peter Clarke, Comisiynydd Plant Cymru yn 2004.[4]
"Wrth i amser fynd heibio daeth yn gyfarwyddwr yn ogystal ag awdur ac yng ngeiriau un aelod o’r criw, "Roedd yn sefyllfa gwbl unigryw, nid oes yr un gyfres arall y gwn i amdani lle mae un person yn cadw cymaint o reolaeth dros allbwn y gyfres honno".[4]
Noddodd Clarke hefyd bod dylanwad Owen yn gryf ar y plant yn y gyfres, a'u bod "yn cael ei dennu ato" am ei fod yn "garismatig".[4] "Clywais am arfer da lle byddai rhieni, ar ddechrau’r gyfres, yn cael eu gwahodd gan y cynhyrchydd i weld ymarfer a rhoddwyd taflen wybodaeth iddynt ynghylch beth fyddai’n digwydd, am ba hyd a ble i fynd os oedd problem."[4]
Disgrifiwyd y gyfres yn yr Adroddiad fel "un o’r rhaglenni teledu mwyaf llwyddiannus i gael ei chynhyrchu yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg."[4]
Ond clywodd Peter Clarke am ddigwyddiadau "a achosodd bryder" iddo gan gynnwys bod John Owen wedi aros "mewn gwesty yn y Rhondda am 60 diwrnod ar ei gost ei hun ar yr un pryd ag yr oedd y plant a’r bobl ifanc o’r cast yn aros yno".[4]. Clywodd hefyd bod "y plant yn cael nosweithiau hwyr yn ystafell Mr Owen yn y gwesty" a gwelwyd "Ffotograff o un o’r bechgyn oedd yn actio yn y gyfres yn "gorwedd i lawr ar fwrdd, yn noeth o’i wast i lawr, gyda channwyll yn sticio allan o’i ben ôl, gyda John Owen a’r holl blant o’i amgylch" yn cael ei basio o amgylch y criw cynhyrchu".[4]
Yn Adroddiad Clywch, mae'n nodi bod "Susan Jeffries (cynhyrchydd cyfresi 4, 5, 6) yn ymwybodol bod yr heddlu yn ymchwilio i Mr Owen ym mis Mai 2001, dair wythnos cyn saethu cyfres olaf Pam Fi Duw?. Dywedodd rheolwyr HTV ac S4C wrth Ms Jeffries am "gario ymlaen yn union fel o’r blaen...cario ymlaen yn union fel pe na bai dim wedi digwydd". Roedd yn ymwybodol bod natur yr honiadau yn ymwneud â chamdriniaeth rywiol".[4]
"Dywedodd Ms Jeffries mai’r ymagwedd oedd bod Mr Owen yn ddieuog hyd nes y’i profwyd yn euog a’i fod yn decach parhau fel o’r blaen hyd nes eu bod yn gwybod yn union beth oedd yn digwydd. Nid ymddengys i unrhyw asesiad risg ffurfiol gael ei gynnal. Ni roddwyd unrhyw gamau diogelwch ychwanegol ar waith i amddiffyn y plant."[4]
Cafodd Owen ei arestio ar set y gyfres ddrama ar 13 Medi 2001, tra'n ffilmio'r chweched gyfres, na chafodd ei dangos ar S4C. Cafodd ei atal o'i waith "ar gyflog llawn" a bu i Susan Jeffries ymgymeryd â'r gwaith o gyfarwyddo'r gyfres.[4]
Daethpwyd o hyd i gorff John Owen mewn carafán ym Mhorthcawl ar y 4 Hydref 2001, cyn i'r Achos ddod i'r Llys. Roedd o wedi lladd ei hun.[4]
Yn y Rhagair i Adroddiad Clywch, mae Peter Clarke yn nodi'n glir:
"Ni all unrhyw un a glywodd y dystiolaeth a glywais i yn fy Ymchwiliad amau, â didwylledd, fod Mr John Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae'r dystiolaeth a glywais wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gam-drin disgyblion yn ei ofal yr rhywiol dros nifer o flynyddoedd".[4]
Derbyniad
[golygu | golygu cod]Cafodd y gyfres ei beirniadu'n llym ar y cychwyn am ei defnydd o Wenglish. Roedd y cast yn cynnwys nifer o actorion Cymreig, oedd unai'n ceisio dysgu'r iaith, neu yn methu siarad Cymraeg. Daeth y gyfres yn llwyddiant mawr i S4C a HTV oedd yn ei chynhyrchu.
Ar y rhaglen, ffurfiwyd band gydag aelodau Cwcw, Nodi, Foxy ac un arall. Rhyddhawyd CD am ddim gyda dwy gân.
Criw Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]- Ffotograffiaeth - David Feig
- Dylunio - Angharad Roberts
- Cerddoriaeth - Dyfan Jones
- Sain - Malcolm Davies
- Golygu - Norman Gettings / Caroline Lynch Blosse
- Uwch Gynhyrchydd – Geraint Morris
- Colur – Bethan Jones / Cissan Rees / Jane Beard
- Gwisgoedd – Ffion Elinor / Maxine Brown
Manylion Atodol
[golygu | golygu cod]Llyfrau
[golygu | golygu cod]- John Owen, Pam Fi, Duw, Pam Fi? (Talybont: Y Lolfa, 1994)
- John Owen, Pam Fi Eto, Duw? (Talybont: Y Lolfa, 1998)
- John Owen, Pam Fi Duw? Ddy Mŵfi (Talybont: Y Lolfa, 1998)
- John Owen, Pam Ni, Duw? (Talybont: Y Lolfa, 2001)
Adolygiadau
[golygu | golygu cod]- "Chwerthin a dagrau, ansicrwydd a hyder." Y Cymro, Ionawr 22 1997, t. 14.
Erthyglau
[golygu | golygu cod]- Jeremy Evas, "Fi yn talko proper Cymraeg, miss", Barn, Rhif 423 Ebrill 1998, t. 32–33.
- John Owen, "Galwch Fi’n Freuddwydiwr…", Golwg, Cyfrol 9 Rhif 19, Ionawr 23 1997, t. 14.
Marchnata
[golygu | golygu cod]- Rhyddhawyd y ddwy gyfres gyntaf ar VHS, gan gynnwys fersiynau oedd yn cynnwys is-deitlau Saesneg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Clywch: Pryder llywodraethwyr , BBC Cymru, 2 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd ar 24 Ionawr 2017.
- ↑ Bwletin Awdurdod S4C - Rhagfyr 2001. S4C (Rhagfyr 2001). Adalwyd ar 24 Ionawr 1997.
- ↑ "Cyhoeddi adroddiad Clywch" (yn Saesneg). 2004-07-01. Cyrchwyd 2025-09-26.
- ↑ 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 4.15 4.16 4.17 "Adroddiad Clywch" (PDF).
