Neidio i'r cynnwys

John Owen (awdur)

Oddi ar Wicipedia
John Owen
GanwydJohn Arwyn Owen
1952 Edit this on Wikidata
Pendyrus Y Rhondda
Bu farwcanfuwyd yn farw 4 Hydref 2001
o hunanladdiad
Porthcawl
Galwedigaethathro, awdur a dramodydd
Cysylltir gydaYsgol Gyfun Rhydfelen

Awdur, dramodydd, athro a chyfarwyddwr theatr a theledu oedd John Owen (19524 Hydref 2001 [y dyddiad fe'i canfuwyd yn farw]) neu John Arwyn Owen / John A. Owen.[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyn-athro drama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1974 a 1991,[1] ac am ei ddrama deledu Gymraeg Pam fi Duw? i S4C.[2] Ym 1995, 1997 a 1999 enillodd Wobr Tir na n-Og am y llyfr ffuglen Cymraeg gorau i Blant. [3] Cafodd ei arestio am bum trosedd rhyw ddifrifol yn 2001 ar ôl i bedwar cyn-ddisgybl ddwyn achos yn ei erbyn. Lladdodd ei hun cyn wynebu'r achos llys yn Hydref 2001. Mae hanes yr achos yn ei erbyn wedi'i groniclo'n fanwl yn Adroddiad Clywch.[4][5]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd John Arwyn Owen ym Mhendyrus, Y Rhondda.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen lle yr oedd yn brif swyddog. Cwblhaodd ei radd Baglor mewn Addysg ym 1974 yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin; yn yr un flwyddyn ymgymerodd â'i apwyntiad dysgu cyntaf yn ei gyn ysgol uwchradd.[5]

Gwaith llenyddol

[golygu | golygu cod]

(detholiad)

Theatr

[golygu | golygu cod]

Teledu a Ffilm a Radio

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Cam-drin plant yn rhywiol

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2001, arestiwyd John Owen a'i gyhuddo o droseddau difrifol yn erbyn plant yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Ar 4 Hydref 2001 daethpwyd o hyd i John Owen yn farw yn ei garafán ym Mhorthcawl ar ôl iddo fethu ag ymddangos yn y llys.[6] Roedd wedi cyflawni hunanladdiad.[4]

Credai llawer mai'r rheswm pam y llwyddodd John Owen i ddianc rhag y gweithredoedd difrifol cyhyd â pharhau i gyflawni oedd oherwydd bod yr ysgol yn cuddio'r gwir (heb roi'r holl dystiolaeth i'r heddlu [7] ), i atal y cyhoedd rhag colli hyder yn addysg cyfrwng Cymraeg.[8]

Yn ddiweddarach lansiwyd ymchwiliad gan y Comisiynydd Plant Peter Clarke o’r enw Adroddiad Clywch oedd hefyd yn rhestru’r honiadau yn erbyn John Owen, ac yn rhoi argymhellion y dylid eu gweithredu i atal rhywbeth tebyg rhag digwydd eto. Dywedodd Clarke yn yr adroddiad "Ni all unrhyw un a glywodd y dystiolaeth a glywais i yn fy Ymchwiliad amau, â didwylledd, fod Mr John Owen yn euog o weithredoedd o anweddustra rhywiol difrifol yn erbyn rhai disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Mae’r dystiolaeth a glywais wedi dangos i Mr Owen, yn ôl pwysau tebygolrwydd, gam-drin disgyblion yn ei ofal yn rhywiol dros nifer o flynyddoedd." [9]

Cyfansoddodd cyn-ddisgybl arall o Ysgol Gyfun Rhydfelen Ian Rowlands y ddrama Blink yn Saesneg sy’n defnyddio achos John Owen fel canolbwynt i’w chefndir. Cyfansoddodd Ian y ddrama wedi sgwrs gydag un cyn-ddisgybl a ddioddefodd gamdriniaeth gan Owen.

Ym mis Ebrill 2021 daeth cyn-ddisgybl i John Owen, Gareth Potter, ymlaen i siarad yn gyhoeddus mewn rhaglen ddogfen ddirdynol ar S4C, Cadw Cyfrinach. Rhannodd ef a dau arall a weithiodd gyda John Owen ar gyfres Pam Fi Duw? eu profiad o gael meithrin perthynas amhriodol a gweld bechgyn eraill yn cael meithrin perthynas amhriodol ac yn cael eu hecsbloetio'n rhywiol.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Comisiynydd Plant: Ymchwiliad cyntaf" (yn Saesneg). 2002-03-25. Cyrchwyd 2025-09-25.
  2. "Pam Fi Duw? At IMDB". Cyrchwyd 2008-11-15.
  3. "THE TIR NA N-OG AWARDS: PAST WINNERS". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-10. Cyrchwyd 2010-10-20.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Dioddefwr John Owen: Dim syniad 'pa mor sinistr oedd y trap'". BBC Cymru Fyw. 2021-04-05. Cyrchwyd 2021-04-08.
  5. 5.0 5.1 Adroddiad Clywch Comisiynydd Plant Cymru
  6. "Timeline: Clywch inquiry" (yn Saesneg). 2004-07-01. Cyrchwyd 2021-04-08.
  7. "The Clywch Report" (PDF).
  8. Shipton, Martin (2012-10-25). "'Broadcasters refused to commission documentary on paedophile John Owen'". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-08.
  9. "The Clywch Report" (PDF).