Pab Alecsander VIII

Oddi ar Wicipedia
Pab Alecsander VIII
GanwydPietro Vito Ottoboni Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1610 Edit this on Wikidata
Fenis Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 1691 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Fenis Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddpab, cardinal, esgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 6 Hydref 1689 hyd ei farwolaeth oedd Alecsander VIII (ganwyd Pietro Vito Ottoboni) (22 Ebrill 16101 Chwefror 1691).[1][2][3]

Roedd Alecsandr yn 79 oed pan etholwyd ef yn bab, a dim ond 16 mis oedd ei deyrnasiad. Serch hynny, roedd y cyfnod byr hwnnw yn nodedig am raddfa eang ei nepotiaeth; dosbarthodd lawer o segurswyddi i'w deulu hefyd.

Yn ogystal â chyfoethogi ei deulu ei hun, gwagiodd Alecsandr gronfeydd y Fatican er mwyn cynorthwyo ei ddinas enedigol, Fenis, yn ei rhyfel yn erbyn y Twrciaid, a phrynu llyfrau a llawysgrifau Cristin, brenhines Sweden ar gyfer Llyfrgell y Fatican. Gostyngodd faint y trethi ar Daleithiau'r Babaeth hefyd.[1]

Beddrod rhwysgfawr Alecsandr VIII ym Masilica Sant Pedr
Rhagflaenydd:
Innocentius XI
Pab
6 Hydref 16891 Chwefror 1691
Olynydd:
Innocentius XII

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Peggy Fogelman; Peter Fusco; Marietta Cambareri (26 December 2002). Italian and Spanish Sculpture: Catalogue of the J. Paul Getty Museum Collection (yn Saesneg). Getty Publications. t. 224. ISBN 978-0-89236-689-7.
  2. Claudio Rendina (2002). The Popes: Histories and Secrets (yn Saesneg). Seven Locks Press. t. 516. ISBN 978-1-931643-13-9.
  3. Michael J. Walsh (1998). Lives of the Popes: Illustrated Biographies of Every Pope from St. Peter to the Present (yn Saesneg). Salamander. t. 220. ISBN 978-0-86101-960-1.
Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.