Neidio i'r cynnwys

Ossuaire de Douaumont

Oddi ar Wicipedia
Ossuaire de Douaumont
MathEsgyrndy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1920 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolFunerary and memory sites of the First World War (Western Front) Edit this on Wikidata
LleoliadDouaumont Edit this on Wikidata
SirFleury-devant-Douaumont Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau49.20826°N 5.423671°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Deco Edit this on Wikidata
Statws treftadaethmonument historique classé, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Cofeb rhyfel sy'n cynnwys gweddillion milwyr a fu farw ar faes Brwydr Verdun yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw'r Ossuaire de Douaumont (Esgyrndy Douaumont). Lleolir yn Douaumont, Ffrainc, ger Verdun.

Bu farw tua 230,000 o ddynion allan o 700,000 o anafedigion a cholledigion yn ystod 300 diwrnod Brwydr Verdun (21 Chwefror 191619 Rhagfyr 1916). Daeth y frwydr i'w adnabod fel y "Verdun mincing machine" (Peiriant malu Verdun), maes a oedd yn llai nac ugain cilometr sgwar.

Mae'r esgyrndy yn gofeb sy'n cynnwys gweddillion y milwyr a fu farw ar faes y frwydr. Gellir gweld esgyrn y milwyr drwy ffenestri cilfach oamgylch waelod yr adeilad. Mae gweddillion tua 130,000 o filwyr Ffrengig ac Almaenig di-enw wedi eu gosod yno. O fewn yr adeilad mae'r waliau a'r nenfwd wedi ei orchuddio gyda enwau rhai o'r milwyr a fu farw ym Mrwydr Verdun. Mae rhai o'r enwau yn rai a fu farw yn yr ardal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Talwyd am y placiau rhain gan teuluoedd y milwyr sydd wedi eu henwi yno. O flaen y cofeb safai'r fynwent fwyaf yn Ffrainc y tu allan i Baris, sy'n cynnwys 25,000 bedd.

Urddwyd Ossuaire de Douaumont yn swyddogol ar 7 Awst 1932 gan Arlywydd Ffrainc, Albert Lebrun.

Pensaerniaeth

[golygu | golygu cod]

Penseiri'r esgyrndy oedd Léon Azéma, Max Edrei a Jacques Hardy; dyluniodd Georges Desvallières y gwydr wedi ei staenio. Mae'r tŵr yng nghanol y gofeb yn 46 meter o uchder ac yn berchen ar olygfa panoramig o faes y brwydr. Mae'r tŵr yn cynnwyr cloch Bourdon de la victoire, sy'n cael ei ganu yn ystod seremoniau swydogol, a llusern marw sy'n sgleinio ar faes y brwydr yn ystod y nos. Mae'r clwysty yn 137 meter o hyd ac yn cynnwys 42 o gilfachau. Mae amgueddfa ryfel ar ail lawr yr adeilad sy'n cynnwys gweddillion o'r pentrefi cyfagos a gafodd eu dinistrio, lluniau 3D, ac arfau.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]