Albert Lebrun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Albert Lebrun
Albert Lebrun

Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1932 – 10 Gorffennaf 1940
Rhagflaenydd Paul Doumer
Olynydd Philippe Pétain (fel Pen Talaith Ffrainc Vichy)
Vincent Auriol ym 1947
(dim arlywydd o 1940–1947)

Geni 29 Awst 1987(1987-08-29)
Mercy-le-Haut, Meurthe-et-Moselle
Marw 6 Mawrth 1950 (78 oed)
Paris
Cenedligrwydd French
Plaid wleidyddol Cyngrhair Gweriniaethol

Gwleidydd Ffrengig ac Arlywydd Ffrainc rhwng 1932 ac 1940 oedd Albert Lebrun (29 Awst 18716 Mawrth 1950). Ef oedd arlywydd olaf y Trydydd Gwerninaeth. Roedd yn aelod o blaid dde-canolig y Cyngrhair Gweriniaethol Democrataidd (ARD).

Ganwyd i deulu ffermio yn Mercy-le-Haut, Meurthe-et-Moselle, mynychodd yr École Polytechnique a'r École des Mines, ggan raddio or ddau yr uchaf yn ei ddosbarth. Daeth yn beiriannydd cloddio yn Vesoul a Nancy, ond gadawodd yr alwedigaeth hwnnw pan oedd yn 29 oed er mwyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.

Enillodd Lebrun sedd yn Siamp y Dirprwyon ym 1900 fel aelod o'r Left Republican Party, yn ddiweddarach gwasanaethodd ar y cabinet fel Gweinidog y Gwladfeydd o 1912–1914, Gweinidog RHyfel ym 1913 a GWeinidog dros y Rhanbarthau a oedd wedi eu RHyddhau, 1917–1919. Ymunodd â'r Gyngrhair Democrataidd, a cafodd ei ethol i senedd Ffrainc dros Meurthe-et-Moselle ym 1920, a gwasnaethodd fel Is-Arlywydd y Senedd o 1925 hyd 1929. Ef oedd Arlywydd y senedd o 1931 hyd 1932.

Etholwyd Lebrun yn Arlywydd France yn dilyn llofruddiaeth yr arlywydd Paul Doumer gan Pavel Gurgulov ar 6 Mai 1932. Ail-etholwyd ym 1939, yn bennaf oherwydd ei record of gymhwyso pob ochr gwleidyddol, ni ymarferodd lawer o bwêr fel arlywydd. Ar 10 Gorffennaf 1940, cafodd Lebrun ei ddisodli gan Philippe Pétain (er na ymddiswyddodd Lebrun yn swyddogol) mewn pleidlais yn y senedd.

Dihengodd i Vizille (Isère) ar 15 Gorffennaf, ond deliwyd ef ar 27 Awst 1943 pan symudodd yr Almaenwyr i fewn i'r ardal, a cafodd ei anfon yn garcharor i Gastell Itter yn Tyrol. Ar 10 Hydref 1943, caniatawyd ef i ddychwelyd i Vizelle oherwyd ei fod mewn iechyd gwael, ond gorychwilwyd ef yn gyson.

Ar 9 Awst 1944, pan adferwyd llywodraeth Ffrainc gan y Cynghreiriad, cyfarfodd Lebrun Ia Charles de Gaulle a chydnabyddodd arweiniaeth y Cadfridog, gan ddweud nad oedd wedi ymddeol yn swyddogol oherwydd fod didyddymiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi golygu na fu neb ar ôl i dderbyn ei ymddiswyddiad.

Ar ôl y rhyfel, arhosodd Lebrun yn ei ymddeoliant. Bu farw o pneumonia ym Mharis wedi cyfnod o salwch.

Mae gan Lebrun nifer o ddisgynyddion enwog mewn sawl gwlad, gan gynnwys y cymdeithaswraig enwog Elisha Stenzel, sydd hefyd yn pethyn i Lebrin ar ochr ei hen-nain.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]