Orient Express

Oddi ar Wicipedia
Orient Express
Enghraifft o'r canlynolinter-city rail, train service, luxury train, international train, passenger train service Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Mehefin 1883 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Rhagfyr 2009 Edit this on Wikidata
GweithredwrCompagnie Internationale des Wagons-Lits Edit this on Wikidata
GwladwriaethTwrci Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Orient Express wreiddiol yn 1883
WL Orient Express

Gwasanaeth trên hirbell a grëwyd yn 1883 gan Compagnie Internationale des Wagons-Lits (CIWL) oedd yr Orient Express.

Newidiodd llwybr a cherbydau'r Orient Express lawer gwaith. Roedd nifer o lwybrau yn y defnyddio enw'r Orient Express yr un pryd, gyda man amrywiadau. Er mai gwasanaeth rheilffordd cyffredin oedd yr Orient Express yn wreiddiol, daeth yr enw i gyfleu moethusrwydd a chwilfrydedd. Enwau'r ddwy ddinas sy'n cael eu gysylltu'n bennaf â'r Orient Express yw Paris a Chaergystennin (Istanbul),[1][2] sef dau ben y gwasanaeth gwreiddiol.[3] Roedd yr Orient Express yn fodel o deithio moethus a chyfforddus mewn dyddiau pan oedd teithio yn dal i fod yn arw a pheryglus.

Teithiodd yr Orient Express i Istanbul am y tro olaf yn 1977. Teithiai ei olynydd fel gwasanaeth tros-nos o Paris i Bwcarést, i Budapest yn unig o 1991 ymlaen, a dim pellach na Fienna ar ôl 2001. Gwnaeth y daith am y tro olaf o Baris ddydd Gwener, Mehefin 8, 2007.[4][5] Wedi hyn, cafodd y llwybr, a oedd yn dal i gael ei alw'n "Orient Express", ei fyrhau fel ei fod yn dechrau o Strasbwrg yn lle,[6] gan gyd-fynd â chyflwyno'r LGV Est a oedd yn cynnig amseroedd teithio llawer byrrach o Baris i Strasbwrg. Roedd y gwasanaeth newydd yn gadael Strasbwrg am 22:20 bob dydd, yn fuan ar ôl i'r TGV gyrraedd o Baris, a'i chysylltu i'r gwasanaeth tros-nos o Amsterdam i Fienna yn Karlsruhe.

Daeth gwasanaeth yr Orient Express i ben ar 14 Rhagfyr 2009 a diflannodd y llwybr o amserlenni trenau Ewropeaidd.[7] Yn 2019, roedd trên y Venice-Simplon Orient Express, menter breifat gan Belmond yn defnyddio cerbydau gwreiddiol CIWL o'r 1920au a 1930au, yn parhau i redeg o Lundain i Fenis ac i gyrchfannau eraill yn Ewrop, gan gynnwys y llwybr gwreiddiol o Baris i Istanbul.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Orient-Express - train".
  2. "Orient-Express". www.orient-express.eu.
  3. Smithsonian - The True History of the Orient Express adalwyd 26 Rhagfyr 2018
  4. Calder, Simon (22 August 2009). "Murder of the Orient Express – End of the line for celebrated train service". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-19. Cyrchwyd 2013-03-13.
  5. "A History of the Orient Express". Agatha Christie Limited. 17 May 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-24. Cyrchwyd 2013-03-13.
  6. "'hidden europe' magazine e-news Issue 2007/15". 2007-06-07. Cyrchwyd 2007-06-07.
  7. "The Orient Express Takes Its Final Trip". NPR. December 12, 2009. Cyrchwyd 2011-02-26.
  8. "Venice Simplon-Orient-Express - Luxury Train from London to Venice". www.vsoe.com.