Oona King

Oddi ar Wicipedia
Oona King
Ganwyd22 Hydref 1967 Edit this on Wikidata
Sheffield Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
MamMurreil Hazel Stern Edit this on Wikidata
PriodTiberio Santomarco Edit this on Wikidata
PlantTullio Jahan Santomarco Edit this on Wikidata

Gwleidydd ac awdures yw'r Farwnes Oona King a anwyd yn Sheffield, Lloegr ar 22 Hydref 1967. Ei theitl llawn yw'r Farwnes King of Bow, ac fel aelod o'r Blaid Lafur, bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Bethnal Green and Bow rhwng 1997 a 2005 pan drechwyd hi gan George Galloway, Respect Party. Cyn mynd yn wleidydd, roedd yn swyddog amrywiaeth yn Sianel 4.[1][2][3][4]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog, Prifysgol Califfornia, Berkeley. [5]

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Ganwyd Oona King yn Sheffield, West Riding of Yorkshire, i Preston King, academydd Affricanaidd-Americanaidd, a'i wraig Iddewig-Seisnig, Murreil Hazel (g. Stern), ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol.[6] Modryb mamol Oona King yw'r meddyg Miriam Stoppard ac mae'r actor Ed Stoppard yn gefnder. Ar ochr ei thad, daw o linell o ymgyrchwyr hawliau sifil Americanaidd ac entrepreneuriaid llwyddiannus. Roedd ei thaid, ar ochr ei thad, yn ymgyrchydd hawliau sifil, sef Clennon Washington King, a'i wraig a'i hewyrth yw C.B. King, twrnai (neu 'gyfreithiwr') hawliau sifil arloesol yn Albany, Georgia. [7]

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Haverstock, Crogsland Road yn Chalk Farm, Bwrdeisdref Camden. Cyd-ddisgyblion idd yno oedd y ddau frawd David Miliband a'i frawd Ed.[8]

Yn ei blwyddyn gyntaf fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Efrog, roedd King yn aelod am gyfnod byr o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd.[9] Yn ystod ei hail flwyddyn (1988–89), enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Califfornia, Berkeley a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth yn 1990.[9][10]

Y gwleidydd[golygu | golygu cod]

Cyn dod yn aelod seneddol, roedd King yn ymchwilydd yn Senedd Ewrop. Bu hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd gwleidyddol i Glyn Ford ASE, Arweinydd y Blaid Lafur yn Senedd Ewrop, ac yn ddiweddarach i Glenys Kinnock ASE.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhyw: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  2. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 10 Ionawr 2016.
  3. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  4. Mp, Labour (21 Hydref 2002). "Oona King profile". BBC News.
  5. Galwedigaeth: http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/2053219.stm.
  6. Emma Brockes (12 Medi 2005). "The Emma Brockes interview: Oona King". The Guardian. London. Cyrchwyd 24 Mai 2010.
  7. Galwedigaeth: http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/2053219.stm.
  8. Nigel Morris (28 Mehefin 2010). "Oona King: 'I can appeal to Tories as well'". The Independent. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-01. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2010.
  9. 9.0 9.1 Oona King House Music: The Oona King Diaries, London: Bloomsbury, 2007 [2013], tud.34-5
  10. "About Oona". Oona King. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.