One Direction
Enghraifft o'r canlynol | band o fechgyn |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Syco Music, Columbia Records, Universal Music Group, Sony Music Entertainment, Legacy Recordings |
Dod i'r brig | 23 Gorffennaf 2010 |
Dod i ben | 2015 |
Dechrau/Sefydlu | 23 Gorffennaf 2010 |
Genre | pop dawns, teen pop, roc poblogaidd |
Yn cynnwys | Zayn Malik, Liam Payne, Louis Tomlinson, Harry Styles, Niall Horan |
Gwefan | http://www.onedirectionmusic.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp pop o fechgyn o Loegr ac Iwerddon sydd wedi'u lleoli yn Llundain ydy One Direction (a adwaenir weithiau fel 1D). Enwau'r aelodau yw Harry Styles, Louis Tomlinson, Niall Horan, Zayne Malik a Liam Payne. Arwyddon nhw gytundeb gyda chwmni recordiau Simon Cowell, Syco, ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio a dod yn drydydd yn y seithfed gyfres o'r gystadleuaeth canu Prydeinig, X Factor yn 2010. Gan ddefnyddio pŵer rhwydweithio cymdeithasol, torrodd tair albwm cyntaf y grŵp, "Up All Night", "Take Me Home" a "Midnight Memories" (2013) nifer o recordiau, gan gyrraedd brig y siartiau yn y mwyafrif o wledydd gorllewinol. Cafodd y senglau "What make you beautiful", "Live while we're young" a "Story Of My Life" lwyddiant masnachol hefyd. Mae sengl arall allan hefyd sef '"Midnight Memories"' ac mae'r sengl yma wedi cael miliynau o wylwyr ar youtube diwrnodau ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Mae eu llwyddiannau'n cynnwys dau Wobr BRIT a phedair Gwobr Fideo Gerddorol MTV ymysg eraill. Yn ôl Nick Gatfield, cadeirydd a phrif weithredwr Sony Music Entertainment UK, roedd One Direction yn cynrychioli busnes gwerth $50 miliwn ym mis Mehefin 2012. Cyhoeddoedd The Huffington Post 2012 yn "The Year of One Direction".[1] Erbyn Ebrill 2013, amcangyfrifir fod gan y band gyfoeth personol o £25 miliwn rhyngddynt.[2] Pan ryddhawyd "Midnight Memories", daeth One Direction y band cyntaf mewn 60 mlynedd i gael eu tri albwm cyntaf i gyrraedd brig y siart albymau Americanaidd. Yn ogystal â hyn, roedd yr albwm yn llwyddiant fyd-eang, gan gyrraedd #1 yn Siart Albymau'r DU a'r US Billboard 200. Dyma hefyd oedd yr albwm a werthodd gyflymaf yn y DU yn 2013.
Hanes
[golygu | golygu cod]2010–11: The X Factor
[golygu | golygu cod]Yn 2010, mynychodd Niall Horan, Zayn Malik, Liam Payne, Harry Styles, a Louis Tomlinson glyweliadau'r seithfed gyfres o'r X Factor fel cantorion solo.[3] Ni lwyddodd yr un ohonynt i gyrraedd categori'r "Bechgyn" yn nhai'r beirniaid ond cawsant eu rhoi i mewn i grŵp pop bechgyn yn Arena Wembley, yn Llundain ym mis Gorffennaf 2010, yn ystod rhan "bootcamp" o'r gyfres,[4]. O ganlyniad, llwyddon nhw fynd trwyddo i gategori'r "Grwpiau". Honna Nicole Scherzinger, beirniad gwadd,[3][5][6] a Simon Cowell mai nhw feddyliodd gyntaf am ffurfio'r band. Yn 2013, dywedodd Cowell ei fod wedi cymryd deng munud iddo eu ffurfio fel grŵp.[7] Ar ôl hyn, unwyd y bechgyn am bythefnos er mwyn iddynt ddod i adnabod ei gilydd ac i ymarfer.[8][9] Styles feddyliodd am yr enw One Direction.[8] Disgrifiodd Cowell eu perfformiad yn nhy'r beirniaid fel perfformiad "hyderus, hwyl, fel criw o ffrindiau, ond heb unrhyw ofn hefyd."[10] O fewn y pedair wythnos cyntaf o'r gyfres X Factor, nhw oedd yr act olaf a oedd gan Simon Cowell yn y gystadleuaeth.[11] Cynyddodd poblogrwydd y grŵp yn gyflym iawn yn y Deyrnas Unedig.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol.
- ↑ Sugar scape.
- ↑ 3.0 3.1 Kelly, Kristy. Nicole Scherzinger: 'I did Simon Cowell a favour with One Direction' , Digital Spy, Hearst, 26 Gorffennaf 2011.
- ↑ Cheryl Tweedy cancels X Factor Boot Camp and V Festival appearances , The Daily Mirror, Trinity Mirror, 12 Gorffennaf 2010.
- ↑ One Direction film claims she founded band, not Simon Cowell .
- ↑ Without Nicole Scherzinger there would be no One Direction .
- ↑ [1] Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ 8.0 8.1 One Direction Biography , The Hot Hits Live from LA, MCM Media.
- ↑ One Direction prepare for Cardiff sell-out shows. Media Wales (13 Ionawr 2012).
- ↑ 10.0 10.1 Greene, Andy. Exclusive Q&A: Simon Cowell on One Direction's Rise to Stardom , Rolling Stone, Jann Wenner, 9 Ebrill 2012.
- ↑ X Factor 2010: Flaky Katie Waissel survives by the skin of her teeth as Simon Cowell is down to one act after Belle Amie are voted off , The Daily Mail, 31 Hydref 2010.