Syco
| Enghraifft o: | busnes, cwmni record, cwmni cyfryngau |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | Mai 2002 |
| Perchennog | Sony Music Entertainment |
| Sylfaenydd | Simon Cowell |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
| Cynnyrch | rhaglen deledu |
| Pencadlys | Llundain, Los Angeles |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.sycoentertainment.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03bx_m4 |
| Quora | Syco |
Menter rhyngwladol ar y cyd rhwng Simon Cowell a Sony Music Entertainment ydy Syco Entertainment, a adwaenir weithiau fel Syco. Ffocysa'r cwmni ar gynhyrchu a marchnata cynnwys cerddorol, teledu, ffilm a digidol. Cyfloga'r cwmni weithwyr mewn dros 50 o swyddfeydd yn Llundain a Los Angeles a rheola nifer o frandiau teledu a cherddoriaeth blaenllaw trwy ei bartneriaeth gyda labelau Sony Music a chynhyrchiadau teledu, gyda FremantleMedia fwyaf amlwg. Mae Simon Cowell a Sony Music Entertainment yn berchen ar 50% o'r busnes yr un. Charles Garland, cyn-brif swyddog cwmni Simon Fuller, 19 Entertainment yw'r Prif Weithredwr Rhyngwladol, ac sy'n gyfrifol am weithrediadau o ddydd-i-ddydd y cwmni. Mae'r biliwnydd adwerthu, Syr Philip Green, sydd yn ffrind agos i Cowell, yn gweithio fel cynghorydd i'r cwmni. Mae Karren Brady hefyd yn cynghori'r cwmni.
Cynhyrchiadau ar hyn o bryd
[golygu | golygu cod]- The X Factor (2004–presennol)
- The Xtra Factor (2004–presennol)
- America's Got Talent (2006–presennol)
- Britain's Got Talent (2007–presennol)
- Britain's Got More Talent (2007–presennol)
- The X Factor USA (2011–presennol)
- Food Glorious Food (2013)
- One Direction: This Is Us ffilm 3D (rhyddhawyd 30 Awst, 2013)