Omar Sharif
Omar Sharif | |
---|---|
Ffugenw | عمر الشريف |
Ganwyd | ميشيل يوسف ديمتري شلهوب 10 Ebrill 1932 Alexandria |
Bu farw | 10 Gorffennaf 2015 o trawiad ar y galon Behman Hospital |
Dinasyddiaeth | Yr Aifft |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, llenor, awdur ffeithiol, actor teledu, bridge player |
Adnabyddus am | Doctor Zhivago, Lawrence of Arabia |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Tad | Joseph Chalhoub |
Priod | Faten Hamama |
Plant | Tarek Sharif |
Gwobr/au | Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Gwobr César am yr Actor Gorau, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, Golden Globe Award for New Star of the Year – Actor |
Chwaraeon |
Actor a chwaraewr cardiau o'r Aifft yw Omar Sharif (Arabeg: عمر الشريف (ganwyd Michel Demitri Shalhoub; 10 Ebrill 1932 – 10 Gorffennaf 2015[1]). Ystyr y cyfenw a fabwusiadodd yw "uchelwr" yn Arabeg. Ymhlith ei ffilmiau enwocaf y mae: Lawrence of Arabia (1962), Doctor Zhivago (1965) a Funny Girl (1968). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi a 3 Golden Globe Award a Gwobr César.
Cafodd ei eni yn Alexandria, yr Aifft, yn fab i Joseph Chalhoub a'i wraig Claire Saada a oedd yn prynu a gwerthu coed. Derbyniodd Sharif ei addysg yng Ngholeg Victoria, Alexandira cyn ymuno gyda Phrifysgol Cairo lle'r astudiodd mathemateg a ffiseg. Priododd yr actores Faten Hamama ym 1955, gan droi'n Fwslim a chawsont un plentyn: Tarek Sharif a anwyd yn 1957. Yn 1974 chwalwyd y briodas ac ni phriododd eildro.[2] A thros y blynyddoedd disgynodd dros ei ben a'i glustiau gyda nifer o actoresau enwog gan gynnwys Ingrid Bergman, Catherine Deneuve ac Ava Gardner.[3]
Yn y 1950 serennodd mewn ffilmiau Arabeg yn ei wlad ei hun, a daeth yn boblogaidd dros nos.
Bridge
[golygu | golygu cod]O'r 1960 hyd ddiwedd y 1980au daeth yn enwog am ei hoffter o'r gêm gardiau Bridge a bu ganddo golofn ym mhapur newydd y Chicago Tribune. Sgwennodd hefyd nifer o lyfrau ar y pwnc a thrwyddedodd ei enw i gêm gyfrifiadurol yn ymwneud â bridge, sef "Omar Sharif Bridge", sydd wedi bod ar werth ers 1992.
Y diwedd
[golygu | golygu cod]Ond meistr arno oedd y ddiod gadarn a gamblo, a threuliodd lawer o nosweithiau'n yfed a gamblo. Yn 2015 datgelwyd ei fod yn dioddef o Clefyd Alzheimer’s.[4] Bu farw o drawiad ar y galon mewn ysbyty yng Nghairo yn 83 mlwydd oed.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Sira` Fi al-Wadi (1954)
- Ayyamna al-Holwa (1955)
- Siraa Fil-Mina (1956)
- Ard al-Salam (1957)
- Goha (1958)
- Sayedat el kasr (1959)
- Bidaya wa nihaya (1960)
- Nahr el hub (1961)
- Lawrence of Arabia (1962)
- Genghis Khan (1965)
- Doctor Zhivago (1965)
- The Night of the Generals (1967)
- Funny Girl (1968)
- The Tamarind Seed (1974)
- Funny Lady (1975)
- Peter the Great (1986)
- The Jewel of the Nile (1988)
- Memories of Midnight (1991)
- Monsieur Ibrahim et les fleurs du Coran (2003)
- Hidalgo (2004)
- Fuoco su di me (2005)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://edition.cnn.com/2015/07/10/entertainment/omar-sharif-dies/index.html?sr=cnnifb
- ↑ www.imdb.com; adalwyd 2015
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 10 Gorffennaf 2015
- ↑ Gwefan www.theguardian.com; adalwyd 10 Gorffennaf 2015