Octagon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Octagon rheolaidd
Regular octagon.svg
Octagon rheolaidd
Ymylon a Fertigau 8
Symbol schläfli {8}
t{4}
Diagram Coxeter–Dynkin CDW ring.pngCDW 8.pngCDW dot.png
CDW ring.pngCDW 4.pngCDW ring.png
Grŵp cymesuredd Deuhedrol (D8)
Arwynebedd
(gyda t=hyd ymyl)

Ongl mewnol
(gradd)
135°

Polygon wyth ochrog yw octagon mewn geometreg. Cynyrchiolir octagon rheolaidd gan y Symbol schläfli {8}.

Octagonau rheolaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir creu octagon rheolaidd gyda chwmpawd ac ymyl syth (e.e. pren mesur). I wneud hyn, dilynwch y camau o 1 i 18 o'r animeiddio, gan nodi nad yw radiws y cwmpawd yn cael ei newid yn ystod camau 7 i 10.

Mae octagon rheolaidd yn octagon sydd â phob ochr o'r un hyd a phob ongl mewnol yr un maint. Mae ongl mewnol pob fertig octagon rheolaidd yn 135° ac mae swm yr holl onglau mewnol yn 1,080°.

Rhoddir arwynebedd octagon rheolaidd gydag ochr hyd a gan

Yn nhermau , (circumradius) yr arwynebedd yw

Yn nhermau , (inradius) yr arwynebedd yw

Yn naturiol, mae'r ddau gyfernod olaf yn cromfachu'r gwerth pi, sef ardal y cylch.

Octagon wedi ei mewnosod mewn sgwâr.

Gellir hefyd ganfod yr arwynebedd fel hyn:

yw rhychwant yr octagon, neu'r croeslin ail-fyraf; a yw hyd un o'r ochrau neu'r gwaelod. Gellir profi hyny'n hawdd gan gymryd octagon, a darlunio sgwâr o gwmpas y tu allan iddi (gan wneud yn siwr fod pedwar ochr o'r wyth yn cyffwrdd pedwar ochr y sgwâr), a gan gymryd y trionglau sy'n ffurfio'r corneli (trionglau 45-45-90) a'u gosod gyda'r onglau sgwâr yn pwyntio i fewn at ei gilydd gan ffurfio sgwâr. Mae ymylon y sgwâr hwn yr un maint a gwaelod yr octagon.

Gan gymryd y rhychwant , hyd ochr yw



Yr arwynebedd felly yw


Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Polygonau

Triongl | Pedrochr | Pentagon | Hecsagon | Heptagon | Octagon | Nonagon | Decagon | Hendecagon | Dodecagon | Triskaidecagon | Pentadecagon | Hexadecagon | Heptadecagon | Enneadecagon | Icosagon | Chiliagon | Myriagon