Norfuk (iaith)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Norfuk)
Norfuk
Mathtafodiaith Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAwstralia Edit this on Wikidata
Norfolk (Norfuk)
Siaredir yn: Ynys Norfolk, Ynys Pitcairn, Awstralia, Seland Newydd
Parth: Ynys Norfolk, Ynys Pitcairn
Cyfanswm o siaradwyr: 580
Ynys Norfolk
Ynys Pitcairn: 38
Safle yn ôl nifer siaradwyr: Dim yn y 100 uchaf
Achrestr ieithyddol: Creol

  Creol Seisnig
   Pacific
    Norfuk

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Ynys Norfolk
Rheolir gan: Dim
Codau iaith
ISO 639-1
ISO 639-2
ISO 639-3 pih
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Norfuk (neu Norfolk) ydy'r iaith sy'n cael ei siarad ar Ynys Norfolk gan y trigolion lleol. Mae'n gymysgedd o'r Saesneg o'r 1700'au a'r iaith Tahitïeg, ac fe gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol gan drigolion Ynysoedd Pitcairn a oedd yn siarad Pitkern. Mae Norfolk yn iaith swyddogol ar yr ynys ynghyd â Saesneg.[1][2]

Wrth i'r gallu i drafeilio yn ôl ac ymlaen i Ynys Norfolk ddod yn haws ac yn fwy cyffredin, mae'r iaith yn dirywio. Er hyn, mae'r bobl yn ymdrechu i gadw'r iaith yn fyw ac yn gobeithio annog mwy i'w defnyddio drwy gynnig addysg i blant drwy gyfrwng Norfuk, drwy gyhoeddi geiriaduron Saesneg-Norfuk, drwy ddefnyddio'r iaith mewn iaith arwyddo (sign language), a thrwy ailenwi atyniadau ymwelwyr (yr enwocaf yw'r llwybr fforest law, "A Trip Ina Stik") i'r Norfuk. Yn 2007, fe ychwanegodd Y Cenhedloedd Unedig yr iaith at ei rhestr o ieithioedd sydd mewn peryg o ddiflannu.

Perthynas gyda Pitkern[golygu | golygu cod]

Mae Norfuk wedi ei ffurfio o dan ddylanwad Pitkern a siaradwyd gan drefedigion o Ynys Pitcairn. Mae'n haws trafeilio i Norfuk o wledydd Seisneg eu hiaith, megis Awstralia a Seland Newydd nag o Ynys Pitcairn felly golyga hyn fod Norfuk wedi cael ei dylanwadu'n fwy gan y Saesneg na gan Pitkern. Oherwydd ei bod hi'n anodd mynd at y boblogaeth Pitcairn, mae'n anodd cymharu a chyfieithu'r ddwy iaith fel fod y ddwy boblogaeth yn gallu cyfathrebu.

Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Oherwydd nad oes gan Norfuk eiriau i fynegi rhai cysyniadau, mae rhai wedi ei disgrifio fel Iaith Cant, ond mae ieithyddwyr yn awr yn ei ddosbarthu fel iaith Creol (fersiwn Môr yr Iwerydd) er ei leoliad yn y Môr Tawel.

Orgraff[golygu | golygu cod]

Oherwydd mai iaith lafar ac nid iaith ysgrifenedig yw hi[3] a diffyg safoniad,[4], bu llawer o ymdrechion i ddatblygu orgraff i'r iaith. Mae'r ymdrechion cynnar wedi ceisio sillafu mewn ffurf Seisnig[5], neu wedi defnyddio marciau "diacritic" i gynrychioli synau sy'n arbennig i'r wlad.

Mae Alice Buffet yn ieithydd sydd yn dod o Awstralia, ac yn pethyn i Gynulliad Deddfwriaethol Norfolk, ac fe ddatblygodd hi ramadeg ac orgraff i'r iaith yn y 1980au, gyda chymorth Dr Donald Laycock, academydd o Brifysgol Cenedlaethol Awstralia. Fe gafodd eu llyfr, Speak Norfuk Today, ei gyhoeddi yn 1988. Fe enillodd yr orgraff yma gefnogaeth llywodraeth Ynys Norfolk, ac mae defnydd ohono'n dod yn fwyfwy poblogaidd. [6]

Geirfa[golygu | golygu cod]

Dyfnder[golygu | golygu cod]

Nid oes gan yr iaith eiriau i fynegi rhai cysyniadau gwyddonol a thechnolegol. Mae rhai o'r ynyswyr yn credu mai'r unig ateb yw i greu pwyllgor sy'n bathu geiriau newydd yn Norfuk yn lle defnyddio'r eirfa Seisnig. Er enghraifft, mae Norfuk wedi mabwysiadu'r gair Kompyuuta, sydd yn Norfuk-eiddiad o'r gair Cyfrifiadur. Mae prosesau tebyg wedi digwydd mewn ieithoedd eraill yn y byd, fel yr iaith Maori yn Seland Newydd a'r iaith Islandeg. Mae gan rai ieithoedd fyrddau a phwyllgorau sy'n bathu geiriau newydd (fel y Comisiwn Iaith Māori yn Seland Newydd).

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

  • Cymraeg - Norfuk
  • Fi - Ai
  • Ti/Chi - yu/yorlye
  • Hi - shi
  • Ni - wi
  • Nhw - dem
  • Gwahanol - Defrent
  • Coeden - Trii
  • Arall - Taeda
  • Prif - Mien
  • Rhodd - Doenaiishun
  • Ewrop - Urup
  • Dinas - Citii
  • Ynys - Ailen

ffynonellau a throednodion[golygu | golygu cod]

Cyfeiria'r troednodion ar ddechrau adran at brif ffynonellau'r adran honno.

  1. The Dominion Post, Ebrill 21 2005 (tudalen B3)
  2. The Daily Telegraph, Save our dialect, say Bounty islanders Archifwyd 2006-06-16 yn y Peiriant Wayback.
  3. Buffett, Alice, An Encyclopædia of the Norfolk Island Language, 1999
  4. Ingram, John. Norfolk Island-Pitcairn English (Pitkern Norfolk), University of Queensland, 2006
  5. Buffett, Alice, An Encyclopædia of the Norfolk Island Language, 1999, p. xvi
  6. Buffett, David E., An Encyclopædia of the Norfolk Island Language, 1999, p. xii