Nora Stanton Blatch Barney
| Nora Stanton Blatch Barney | |
|---|---|
| Ganwyd | Nora Stanton Blatch 30 Medi 1883 Basingstoke |
| Bu farw | 18 Ionawr 1971 Greenwich |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Master of Science in Engineering |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | pensaer, peiriannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, peiriannydd sifil |
| Mam | Harriot Eaton Stanton Blatch |
| Priod | Lee de Forest, Morgan Barney |
| Perthnasau | Elizabeth Cady Stanton, Henry Brewster Stanton |
Ffeminist o'r Unol Daleithiau a aned yn Basingstoke, Hampshire, Lloegr, oedd Nora Stanton Blatch Barney (30 Medi 1883 - 18 Ionawr 1971) a oedd hefyd yn bensaer, peiriannydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, a swffragét. Roedd Barney ymhlith y merched cyntaf i raddio gyda gradd mewn peirianneg yn Unol Daleithiau America. Hi oedd wyres Elizabeth Cady Stanton.[1]
Fe'i ganed yn Basingstoke, Hampshire, Lloegr a bu farw yn Greenwich, Llundain. Bu'n briod i Lee de Forest. [2][3][4][5][6]
Y dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn ferch i William Blatch a Harriot Eaton Stanton, merch Elizabeth Cady Stanton. Astudiodd Lladin a mathemateg yn Ysgol Horace Mann yn Efrog Newydd, gan ddechrau yn 1897, gan ddychwelyd i Loegr yn y gwyliau haf. Symudodd y teulu i'r Unol Daleithiau ym 1902. Aeth Nora i Brifysgol Cornell, gan raddio ym 1905 gyda gradd mewn peirianneg sifil. Hi oedd y fenyw cyntaf i raddio mewn peirianneg o Brifysgol Cornell. [7][8]
Yn 1905 fe'i derbyniwyd fel aelod iau o Gymdeithas Peirianwyr Sifil America (ASCE), a dechreuodd weithio i Gyflenwad Dŵr Bwrdd Dinas Efrog Newydd. Bu hefyd yn gweithio i'r American Bridge Company rhwng 1905 a 1906.[9]
Yr ymgyrchydd
[golygu | golygu cod]Gan ddilyn esiampl ei mam a'i mam-gu, daeth Nora hefyd yn weithgar yn y mudiad menywod. Hi oedd yr aelod benywaidd cyntaf o Gymdeithas Peirianwyr Sifil America, lle caniatawyd iddi fod yn aelod iau yn unig, ond ni chafodd ei dyrchafu'n aelod llawn yn 1916 oherwydd ei rhyw. Yn 1916, fe erlynodd Gymdeithas Peirianwyr Sifil America (ASCE) mewn llys am wrthod ei derbyn fel aelod llawn, er iddi gwrdd â'r holl ofynion. Collodd Blatch, ac ni ddaeth unrhyw fenyw yn aelod llawn o ASCE am ddegawd gyfan. Yn 2015, wedi ei marwolaeth, cafodd ei dyrchafu i statws Cymrawd ASCE.[10][11]
Priodi
[golygu | golygu cod]Yn 1908, priododd y dyfeisiwr Lee de Forest, a helpodd i reoli rhai o'r cwmnïau roedd ef wedi'u sefydlu i hyrwyddo ei ddyfais newydd, sef radio di-wifr. Treuliodd y cwpl eu mis mêl yn Ewrop yn marchnata offer radio a ddatblygwyd gan de Forest. Fodd bynnag, dim ond blwyddyn yn ddiweddarach gwahanodd y cwpl, yn bennaf oherwydd bod de Forest yn mynnu bod Nora yn rhoi'r gorau i'w phroffesiwn fel pensaer ac yn dod yn wraig tŷ gonfensiynol. Yn fuan wedyn, ym mis Mehefin 1909, rhoddodd Nora enedigaeth i'w merch, Harriot.[12]
Yn 1909, dechreuodd weithio fel peiriannydd i gwmni Radley Steel Construction Company. Ysgorodd de Forest a hithau yn 1911, a daliodd ati gyda'i gyrfa mewn peirianneg,[13] gan weithio i'r New York Public Service Commission.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Mrs. Nora S. Barney, Architect, 87, Dies". New York Times. 20 Ionawr 1971.
- ↑ Cyffredinol: (yn en) Carnegie Hall Data Lab, Mehefin 2017, Carnegie Hall Agent ID 64476, Wikidata Q30500746, http://data.carnegiehall.org, adalwyd 2 Mai 2022
- ↑ Dyddiad geni: Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132. "Nora Stanton Blatch Barney". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Barney, Nora Stanton Blatch (30 September 1883–18 January 1971), women's rights activist. retrieved: 9 Hydref 2017. subject named as: Nora Stanton Blatch Barney. "Nora Stanton Blatch (de Forest) Barney". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Nora Stanton Blatch Barney". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Barney, Nora Stanton Blatch (30 September 1883–18 January 1971), women's rights activist. retrieved: 9 Hydref 2017. subject named as: Nora Stanton Blatch Barney. "Nora Stanton Blatch (de Forest) Barney". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132.
- ↑ Mam: Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132.
- ↑ Alma mater: Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132.
- ↑ Galwedigaeth: Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132. Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132. Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132. Marilyn Bailey Ogilvie (16 Rhagfyr 2003). The Biographical Dictionary of Women in Science (yn Saesneg). 1. Routledge. t. 82. ISBN 978-1-135-96342-2. OCLC 174736794. OL 34099M. Wikidata Q28721132.
- ↑ https://www.britannica.com/biography/Nora-Stanton-Blatch-Barney
- ↑ www.nsf.gov; adalwyd 8 Gorffennaf 2019
- ↑ "ASCE Recognizes Stanton Blatch Barney; Pioneering Civil Engineer, Suffragist". ASCE News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-19. Cyrchwyd 2016-02-10.
- ↑ "Harriet de Forest Engaged To Marry. Daughter Of Mrs. Morgan Barney Is Betrothed To Marshall C. Allaben Jr". New York Times. 22 Hydref 1932. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2010.
- ↑ Judy Barrett Litoff; Judith McDonnell (1994). European Immigrant Women in the United States: A Biographical Dictionary. Taylor & Francis. tt. 14–. ISBN 978-0-8240-5306-2.