Nifwl Sadwrn

Oddi ar Wicipedia
NGC 7009, llun gan Delesgop Gofod Hubble.

Nifwl planedol mawr a leolir yng nghytser Aquarius, y Dyfrwr, yw Nifwl Sadwrn, a elwir yn fwy ffurfiol NGC 7009.[1] Mae'r enw poblogaidd yn deillio o'r tebygrwydd i'r blaned Sadwrn trwy delesgop bach gyda dau estyniad sydd yn edrych ychydig fel modrwyau Sadwrn.

Gelwir hefyd Caldwell 55 oherwydd ei rhif yng nghatalog Caldwell y seryddwr Patrick Moore o nifylau, clystyrau sêr a galaethau sy'n hawdd i'w gweld trwy telesgopau bach. Daranfuwyd gan William Herschel yn 1782.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 27 Mawrth 2017. Ymchwiliadau am NGC 7009 yn adnodd Simbad.
Eginyn erthygl sydd uchod am nifwl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.