Nicandros

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Nicandros
Ganwyd 250 CC Edit this on Wikidata
Colophon Edit this on Wikidata
Bu farw 170 CC Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Galwedigaeth meddyg, bardd, ysgrifennwr, hanesydd, epigramwr Edit this on Wikidata
Am y bardd Cymraeg Nicander, gweler Morris Williams. Am enghreifftiau eraill o'r enw Nicander gweler Nicander (gwahaniaethu).

Bardd a gramadegydd yn yr iaith Roeg oedd Nicandros (hefyd Nicander; Groeg: Νίκανδρος) (fl. ganol yr ail ganrif CC), yn enedigol o ddinas Colophon yn Asia Leiaf.

Offeiriad etifeddol yng ngwasanaeth y duw Apollo oedd Nicander. Roedd hefyd yn feddyg galluog. Treuliai gyfnodau hir yn ardal Aetolia ac yn ninas Pergamom.

Cyfansoddai nifer o lyfrau, gan gynnwys traethawd hir ar amaeth (erys darnau ohoni ar glawr) a llyfr ar ymrithiadau (metamorphoses) a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell gan y bardd Lladin Ofydd ac eraill.

Mae dwy o'i gerddi ar glawr ond nid oes iddyn nhw lawer o werth llenyddol, sef y Theriaca, ar feddyginiaethau yn erbyn brath nadroedd, a'r Alexipharmaca, ar wenwynau mewn bwyd a diod a sut i'w cwffio.