Neymar
Gwedd
| Neymar | |
|---|---|
| Ganwyd | Neymar da Silva Santos Júnior 5 Chwefror 1992 Mogi das Cruzes |
| Dinasyddiaeth | Brasil |
| Galwedigaeth | pêl-droediwr |
| Taldra | 175 centimetr |
| Pwysau | 69 cilogram |
| Tad | Neymar da Silva Santos |
| Partner | Bruna Marquezine, Yuno baba bir, Gabriella Lenzi |
| Plant | Mavie Biancardi da Silva, Davi Lucca |
| Gwobr/au | Samba Gold, South American Footballer of the Year, South American Footballer of the Year |
| Gwefan | https://www.neymarjr.com/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | C.P.D. Barcelona, Santos F.C., Brazil national under-17 football team, Brazil national under-20 football team, Brazil national under-23 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Brasil, Paris Saint-Germain F.C., Al Hilal SFC, Santos F.C. |
| Safle | hanerwr asgell |
| Gwlad chwaraeon | Brasil |
| llofnod | |
Pêl-droediwr o Frasil ydy Neymar (ganwyd Neymar da Silva Santos Júnior, 5 Chwefror 1992) sy'n chwarae i glwb Santos yn y Série A Brasil a thîm pêl-droed cenedlaethol Brasil.
Dechreuodd ei yrfa gyda chlwb Santos ym Mrasil gan wneud ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm cyntaf yn 2009. Enillodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn y Campeonato Paulista, prif bencampwriaeth bêl-droed São Paulo yn 2009 a Chwaraewr y Flwyddyn yn 2010 wrth i Santos ennill y bencampwriaeth a'r Copa do Brasil.
Ar 27 Mai 2013, cyhoeddwyd fod Neymar wedi ymuno â Barcelona am €57m.[1]
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Frasil yn 18 mlwydd oed ar 10 Awst 2010 yn erbyn yr Unol Daleithiau a sgoriodd wrth i A Seleção ennill 2-0.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Neymar excited by Messi alliance". uefa.com.