Tîm pêl-droed cenedlaethol Unol Daleithiau America
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Unol Daleithiau America yn cynrychioli Unol Daleithiau America yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Bêl-droed yr Unol Daleithiau (USSF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r USSF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Gogledd a Chanol America a'r Caribî (CONCACAF) (Saesneg: Confederation of North, Central American and Caribbean Association Football).
Mae UDA wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar ddeg achlysur, gan gynnal y bencampwriaeth ym 1994 ac maent wedi ennill tlws y CONCACAF Gold Cup ar bump achlysur.