Neuadd y Penrhyn
![]() | |
Math | adeilad ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bangor ![]() |
Sir | Bangor ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 21.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.227°N 4.125°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Manylion | |

Adeilad hanesyddol yn ninas Bangor, Gwynedd yw Neuadd y Penrhyn. Codwyd yr adeilad ganol y 1850au. Ar hyn o bryd mae'n gartref i gyfarfodydd Cyngor Dinas Bangor.
Cyflwynwyd y neuadd yn rhodd i Ddinas Bangor gan yr Arglwydd Penrhyn, Edward Gordon Douglas-Pennant, yn 1857.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd Adran Adloniant Ysgafn y BBC yno o'i phencadlys yn Llundain oherwydd y peryglon o gael ei bomio yn y Blitz. Yma y darlledwyd y rhaglen gomedi ITMA, un o sioeau radio mwyaf poblogaidd y cyfnod, gyda'r digrifwr Tommy Handley yn serennu. Arhosodd y BBC ym Mangor ar ôl y rhyfel a daeth y neuadd yn gartref i wasanaeth Cymraeg y gorfforaeth yn y gogledd; parhaodd felly tan adeiladwyd stiwdios newydd BBC Cymru ym Mangor Uchaf. Erbyn hyn mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel siambr ar gyfer cyfarfodydd llawn Cyngor Dinas Bangor.