Nestor Dmytriw

Oddi ar Wicipedia
Nestor Dmytriw
Ganwyd12 Tachwedd 1862 Edit this on Wikidata
Utishkiv Edit this on Wikidata
Bu farw27 Mai 1925 Edit this on Wikidata
Elizabeth, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, ysgrifennwr, cyfieithydd, gwleidydd Edit this on Wikidata

Offeiriad Wcreinaidd yn Eglwys Gatholig Roeg Wcráin ac awdur yn yr iaith Wcreineg oedd Nestor Dmytriw (186327 Mai 1925). Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn gennad yn Unol Daleithiau America a Chanada.

Bywyd cynnar yn Wcráin (1863–95)[golygu | golygu cod]

Ganwyd i deulu o werinwyr yn Scherebky (Жеребки) yn Nheyrnas Galisia a Lodomeria, a leolir heddiw yn Oblast Lviv yng ngorllewin Wcráin. Astudiodd diwinyddiaeth yn Athrofa Gatholig Roeg Lviv. Pwysleisiodd Dmytriw a'i gyfeillion wasanaethu'r gymuned, a'r angen i offeiriaid ifainc mynd gydag ymfudwyr Wcreinaidd i Ogledd America. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn 1895.[1]

Cenhadaeth i Ogledd America (1895–1925)[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd Dmytriw yr Unol Daleithiau yn 1895 i arwain y genhadaeth i weithwyr diwydiannol Wcreinaidd ym Mhensylfania. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwr, a chyhoeddwyd nifer o'i erthyglau yn Svoboda, y papur newydd Wcreineg cyntaf yng Ngogledd America.

Ei gyfnod yng Nghanada (1897–9)[golygu | golygu cod]

Anfonwyd Dmytriw i Ganada yn Ebrill 1897 gan y Gymdeithas Genedlaethol Rwthenaidd, sefydliad cydfuddiannol yn yr Unol Daleithiau a glywsai'r angen am offeiriaid gan setlwyr Wcreinaidd yn Nhaleithiau'r Paith (Manitoba, Saskatchewan, ac Alberta). Gan yr oedd Dmytriw yn medru Wcreineg, Almaeneg, a Saesneg, cafodd ei benodi'n gyfieithydd i'r asiantaeth fewnfudo i Ganada. Yn ei waith fel yr offeiriad Wcreinaidd cyntaf yng Nghanada, trefnodd plwyfi Terebowla a Stuartburn ym Manitoba ac Edna yn Alberta. Rhyddfrydwr oedd Dmytriw a oedd o blaid eglwys Gatholig Roeg annibynnol yng Nghanada, er i'r Eglwys Gatholig Rufeinig wrthwynebu hynny ar y pryd.[1]

Ysgrifennwyd y stori fer gyntaf yn Wcreineg yng Nghanada ganddo pan oedd yn ymweld â Calgary yn 1897.[2] Danfonodd adroddiadau o'i brofiad i Svoboda a chawsant eu cyhoeddi ar ffurf llyfryn o'r enw Kanadiis’ka Rus’: podorozhni spomyny ("Rwthenia Canada: atgofion taith"; 1897).[1]

Dychweliad i Bensylfania a New Jersey (1899–1925)[golygu | golygu cod]

Dychwelodd Dmytriw i Bensylfania yn 1899 oherwydd ei ludded corfforol a'i drafferthion ariannol o ganlyniad i'w waith di-flin yng Nghanada. Parhaodd i gyfrannu at Svoboda, ac ysgrifennodd am ei brofiadau yng nghymunedau Wcreinaidd Pensylfania. Gwasanaethodd sawl plwyf yn y dalaith honno ac yn New Jersey. Ni wyddys llawer am ddiwedd ei oes. Bu farw yn Elizabeth, New Jersey.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Dmytriw, Nestor", Dictionary of Canadian Biography. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.
  2. (Saesneg) "Ukrainian Writing", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.