Néstor Perlongher

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Néstor Perlongher
Ganwyd 24 Rhagfyr 1949 Edit this on Wikidata
Avellaneda Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Tachwedd 1992 Edit this on Wikidata (42 oed)
Achos: death from AIDS-related complications Edit this on Wikidata
São Paulo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Ariannin, Brasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidade Estadual de Campinas Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr, cymdeithasegydd, Bardd, anthropolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidade Estadual de Campinas Edit this on Wikidata
Arddull Barddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim Edit this on Wikidata

Bardd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg ac anthropolegydd oedd Néstor Perlongher (25 Rhagfyr 194926 Tachwedd 1992).

Ganwyd yn Avellaneda, yn Nhalaith Buenos Aires. Astudiodd ym Mhrifysgol Campinas yn São Paulo, Brasil.

Cyhoeddodd chwe chyfrol o gerddi sy'n nodweddiadol o farddoniaeth newydd-faróc. Mae ei benillion erotig yn debyg i weithiau'r beirdd Ciwbaidd Lezama Lima a Severo Sarduy, a'i gerddi diweddarach yn archwilio perlewyg cyfriniol. Enillodd Wobr Boris Vian am ei ail gyfrol o farddoniaeth, Alambres, yn 1987.[1]

Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei oes yn São Paulo yn addysgu anthropoleg ym Mhrifysgol Campinas ac yn astudio rhywioldeb. Cyhoeddodd ddau lyfr ysgolheigaidd yn Bortiwgaleg yn 1987: O negócio do miché am buteindra gwrywaidd yn São Paulo, ac O que é Aids am yr afiechyd a fu'n dioddef ohono. Enillodd Wobr Guggenheim yn 1992 am ei brosiect i lunio auto sacramental (rhyw fath o ddrama firagl), gwaith a fu'n anorffenedig ganddo. Bu farw yn São Paulo o AIDS yn 42 oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Austria-Hungría (1980).
  • Alambres (1987).
  • Hule (1989).
  • Parque Lezama (1990).
  • Aguas Aéreas (1992).
  • El chorreo de las iluminaciones (1992).

Rhyddiaith[golygu | golygu cod y dudalen]

  • O negócio do miché: Prostitução viril em São Paulo (1987).
  • O que é Aids (1987).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jorge Schwartz, "Perlongher, Néstor" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 429.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ben Bollig, Néstor Perlongher: The Poetic Search for an Argentine Marginal Voice (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008).
  • N. Rosa, Tratados sobre Néstor Perlongher (Buenos Aires: Editorial Ars, 1997).
  • P. Siganevich ac A. Cangi Lúmpenes peregrinaciones: Ensayos sobre Néstor Perlongher (Rosario, yr Ariannin: Beatriz Viterbo, 1996).
  • M. Zapata, "Néstor Perlongher: La parodia diluyente", Inti: Revista de literatura hispánica 26–7 (1987), tt. 285–97.