Mynydd Mallaen
Gwedd
| Math | bryn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Gaerfyrddin |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 462 metr |
| Cyfesurynnau | 52.08°N 3.84°W |
| Amlygrwydd | 205 metr |
| Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Cambria |
![]() | |
Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Mynydd Mallaen. Mae'n gorwedd yng ngogledd y sir ym mryniau Elenydd. Uchder: 448m.
Mae'n fwy o lwyfandir uchel na bryn go iawn. Mae Bwlch-y-rhiw yn gorwedd rhyngddo â gweddill Elenydd. O ochr orllewinol y bwlch llifa afon Cothi heibio i droed y bryn ar ei ffordd i lawr i Bumsaint. O'r ochr arall llifa ffrwd fynyddig i ymuno yn afon Tywi.
Ger copa'r mynydd ceir carnedd Crugiau Merched sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Ceir maen hir tua hanner milltir i'r de-ddwyrain.
Cadwraeth
[golygu | golygu cod]Mae Cwm Doethie a Mynydd Mallaen yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
