Myfanwy Alexander

Oddi ar Wicipedia
Myfanwy Alexander
GanwydIonawr 1963, Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, cynghorydd, darlledwr Edit this on Wikidata

Sgwennwr a darlledwr o Sir Drefaldwyn yw Myfanwy Alexander (g Ionawr 1963).[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion.[2]

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu, gan gynnwys nifer o raglenni comedi a dychan. Enillodd wobr Sony am y gyfres gomedi The LL Files i Radio Wales yn 1999. Hi yw hanner tîm Cymru ar y Round Britain Quiz ar Radio 4. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Oes Heddwas? yn 2015, Pwnc Llosg yn 2016, Y Plygain Olaf yn 2017 a Mynd Fel Bom yn 2020. Cafodd A Oes Heddwas? ei chyfieithu i'r Saesneg yn haf 2017 dan y teitl Bloody Eisteddfod.[3] Cyhoeddwyd Burning Issue cyfieithiad Saesneg o Pwnc Llosg ym Mai 2020.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Mae Myfanwy Alexander yn gynghorydd annibynnol ar Gyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Banw a Chyngor Cymuned Llanerfyl. Mae hi wedi gwasanaethu fel dirprwy arweinydd Cyngor Sir Powys, ac fel Deiliad Portffolio Dysgu a’r Iaith Gymraeg.[4] Bellach mae'n Ddeiliad Portffolio ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg.[5]

Mae Myfanwy Alexander yn chwaer i'r gwleidydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.[6]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Mae Myfanwy wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol:

  • A Oes Heddwas (2015) [7]
  • Pwnc Llosg (2016)
  • Y Plygain Olaf (2017) [8]
  • Mynd Fel Bom (2020)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Myfanwy ALEXANDER - Personal Appointments (free information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-25.
  2. "Welsh Interest – Page 2". Llandeilo Litfest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-24. Cyrchwyd 2019-11-25.
  3. "www.gwales.com - 1845275616". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
  4. "Myfanwy Alexander yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder". Golwg360. 2019-09-25. Cyrchwyd 2019-11-25.
  5. "Councillor details - Alexander, Myfanwy". powys.moderngov.co.uk. 2019-11-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-27. Cyrchwyd 2019-11-25.
  6. WalesOnline (2011-09-10). "New Plaid chair Helen Mary Jones under fire from own sister". walesonline. Cyrchwyd 2019-11-25.
  7. Alexander, Myfanwy (2015). A oes heddwas?. Llanwrst: Gwasg Carreg gwalch. ISBN 978-1-84527-553-2. OCLC 922686365.
  8. ALEXANDER, Myfanwy (2017). PLYGAIN OLAF, Y. Llanrwst: GWASG CARREG GWALCH. ISBN 1-84527-610-8. OCLC 1004760995.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Myfanwy Alexander ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.