Morwenna (santes)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Santes Gernyweg o'r 6g oedd Morwenna a elwir Mwynen yng Nghymru.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Mwynen yn ferch i Cymorth a Brynach ac felly'n gor-wyres i Brychan. Roedd ganddi tair chwaer, Mynfer, Mabyn ac Endelyn (Endellion). Symudodd ei rhieni a'i chwaer Mynfer i Gernyw o dde Cymru cyn iddi cael ei geni. Mae'r cofnod cynharaf ohoni'n dyddio o'r 12g. Rhoddodd ei henw i Morwenstow yng Ngogledd Cernyw a chredir fod ei henw Cernyweg yn tarddu o'r gair 'morwyn'.[1] Yn y ddogfen The Life of Nectan of Hartland y ceir y cofnod cynharaf ohoni mae'n debyg, a hynny yn y 12g, ynghyd a seintiau eraill o'r ardal, sef Mabyn a Menfre.[2]<[3]

Teithiodd i Hennacliff, Gernyw a alwyd yn ddiweddarach yn Morwenstowe. Saif ei heglwys ar gopa bryncyn sy'n edrych dros fôr garw Cefnfor yr Iwerydd a lle gellir gweld Cymru ar ddiwrnod clir. Dywedir iddi godi'r eglwys gyda'i dwylo'i hun a thrwy gario'r cerrig o waelod y graig i'r copa ar ei phen. O'r fan lle gorffwysodd (rhwng y ffordd o'r traeth i ben y bryn), tarddodd ffynnon.[3][4] Ceir chwedl amdani yn ei henaint, bron a marw, ac iddi ofyn i Nectan i'w chodi ar ei heistedd yn y gwely, er mwyn iddi gael cip ar y môr, am y tro olaf. Dywedir iddi gael ei chladdu yn Eglwys Morwenstow.[4]

Sant Morwenna oedd enw'r eglwys ym Morwenstowe hyd at c. 1275 pan roddwyd yr eglwys dan ofalaeth ysbyty Sant Ioan, Bridgwater ac ychwangywd ei enw yntau.[5] Santes cwbwl wahanol oedd "Marwenne" o Marhamchurch, noddwraig Eglwys Lamorran and Merther, a sant "Moren".[2][6]

Llun ar y wal[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd paentiad o Forwenna ar un o furiau mewnol yr eglwys, tan yn ddiweddar, llun ohoni gyda sgrôl yn ei llaw chwith yn cael ei ddal yn erbyn ei bron, a'i braich dde wedi'i godi gan sancteiddio mynach a oedd yn penlinio o'i blaen. Cofnodwyd ei bod yn edrych yn 'fain ac esgyrnog'.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Baring-Gould, Sabine (1914), The Lives of the Saints, J. Grant, tud. 263.
  2. 2.0 2.1 Orme, Nicholas (2000). The Saints of Cornwall, tud. 196, ar Google Books, Oxford University Press, p. 196.
  3. 3.0 3.1 Spencer,R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llannerch
  4. 4.0 4.1 4.2 "St. Morwenna of Morwenstow, Cornwall", Antiochian Orthodox Christian Church
  5. "Morwenstow". iWalk North Cornwall. http://www.iwalknorthcornwall.co.uk/walk/morwenstow. Adalwyd 20 Ionawr 2013.
  6. Ford, David Nash. "EBK: St. Morwenna". Nash Ford Publishing. http://www.earlybritishkingdoms.com/bios/morwenna.html. Adalwyd 18 Ionawr 2013.