Morlais

Oddi ar Wicipedia
Morlais
Am y castell ym Morgannwg, gweler Castell Morlais.

Esgob Bangor o tua'r flwyddyn 904 hyd 944 OC oedd Morlais (fl. chwarter olaf y 9g - 944). Cofnodir dwy ffurf ar ei enw, sef 'Morleis' (Morlais) a 'Morcleis' (Morglais).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ni wyddom nemor dim amdano ar wahân i'r ffaith y cafodd ei urddo yn Esgob Bangor tua 904, yn rhan olaf teyrnasiad Anarawd ap Rhodri (878-916), ac iddo farw yn y flwyddyn 944. Am na fyddai dyn ifanc yn cael ei benodi'n esgob mae'n debygol iddo gael ei eni cyn 875.

Gwasanaethodd y rhan fwyaf o'i amser fel esgob pan oedd Idwal Foel ab Anarawd (916-942) yn teyrnasu yng Ngwynedd. Yn rhan olaf ei oes cipiwyd Gwynedd gan Hywel Dda i reoli dros Gymru gyfan am gyfnod byr.

Cofnodir marwolaeth Morlais yn yr Annales Cambriae mewn cofnod am y flwyddyn 945 : "Morleis episcopus obiit" ('bu farw'r Esgob Morlais').[1]

Cofnodir marwolaeth 'Morcleis' (Morlais) yn y flwyddyn 944 ym Mrut y Tywysogion. Cyfeiriad moel yw hyn hefyd, ond mae'n ychwanegu ei fod yn esgob Bangor.[2]

Ni wyddys pwy a'i olynodd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Morris (gol.), Nennius British History and Welsh Annals (Phillimore, 1980), tud. 96.
  2. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon, Peniarth MS. 20 (Caerdydd, 1940), tud. 8.