Castell Morlais

Oddi ar Wicipedia
Castell Morlais
Olion Castell Morlais
Mathcastell, caer lefal Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMadog ap Llywelyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMerthyr Tudful
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7768°N 3.3789°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO05000950 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM028 Edit this on Wikidata

Castell o'r 13g yw Castell Morlais, wedi'i leoli uwch dyffryn Taf ger tref Merthyr Tudful yng Nghymru.

Ychydig sy'n weddill o'r castell a godwyd gan Gilbert de Clare, 3ydd Iarll Caerloyw. Cipiwyd y castell gan Madog ap Llywelyn ym 1294. Credir na chafodd y castell erioed ei gwblhau, gan ei fod yn rhy anghysbell i neb fyw ynddo.

Rhai o nodweddion yr unig ystafell sy'n weddill o Gastell Morlais

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Roedd gan y castell ward fewnol drionglog, gydag ochrau tua 45m o hyd, a beili tua 60m o led. Roedd gorthwr crwn tua 17m mewn diamedr yn y gornel ogleddol, gyda tŵr siâp D gyda grisiau yn y gornel dde-ddwyreiniol, a thŵr tebyg ar y wal ddeheuol. Rhwng y ddau hyn roedd y porthdy. Mae pydew dwfn o flaen y tŵr deheuol - y seston mae'n debyg. Does dim tŵr yn yr ochr orllewinol, ond mae tŵr siâp D yn y gornel dde-ddwyreiniol.Ychydig o'r castell sydd ar ôl heddiw, gydag un ystafell yn weddill ar waelod y gorthwr. Mae waliau isel o gwmpas y castell yn rhoi gwell syniad i ni o lle safai. Mae'r ffos yn ymestyn o gwmpas y castell, er bod un ochr wedi diflannu - oherwydd y chwarel galch fu yno unwaith, efallai. Mae cwrs golff 18 twll Castell Morlais i'r dwyrain o'r castell.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]