Morgan Rhys
Gwedd
Morgan Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1716 Cil-y-cwm |
Bu farw | 9 Awst 1779 Llanfynydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro, emynydd |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Athro mewn ysgolion cylchynol ac emynydd oedd Morgan Rhys (1 Ebrill 1716 - 9 Awst 1779).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed ef yn Efail-fach, Cilycwm, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio fel athro cylchynol mewn nifer o bentrefi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o 1757 hyd 1775. Ceir cyfeiriadau canmoliaethus ato yn adroddiadau'r Welch Piety. Claddwyd ef ym mynwent Llanfynydd ar 9 Awst 1779.
Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o emynau, a hefyd nifer o farwnadau i ffigyrau crefyddol. Ceir ei emynau yng nghasgliadau emynau pob enwad. Yn 2001 cyhoeddodd Gwasg Gregynog argraffiad cain o ddetholiad o'i emynau wedi'u golygu gan D. Simon Evans, gyda darluniau gan Rhiain M. Davies.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Emynau
[golygu | golygu cod]Detholiad o'i emynau o Lyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
- Agorodd drws i'r caethion
- Beth sydd imi yn y byd?
- Capten mawr ein hiechydwriaeth
- Cyduned trigolion y ddaear i gyd
- Dewch, hen ac ieuainc, dewch
- Eheded iechydwriaeth
- Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr
- Fe welir Seion fel y wawr
- Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad
- Gwnaed concwest ar Galfaria fryn
- Gwnes addunedau fil
- Helaetha derfynau dy deyrnas
- Hosanna, Haleliwia
- O! agor fy llygaid i weled
- O! Gariad, O! gariad anfeidrol ei faint
- Peraidd ganodd sêr y bore
- Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru
- Wyneb siriol fy Anwylyd
- Ymado wnaf â'r babell
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Golwg o Ben Nebo, ar Wlâd yr Addewid (Bryste, 1755, ail arg Caerfyrddin, 1764)
- Casgliad o Hymau (Caerfyrddin, 1757)
- Casgliad o Hymnau etc. (Caerfyrddin, 1760)
- Golwg ar Ddull y Byd (1767)
- Golwg ar Ddinas Noddfa (1770)
- Griddfanau'r Credadyn (1772)
- Griddfanau Credadyn (llyfr gwahanol), (c. 1774)
- Y Frwydr Ysprydol (1772-4)
Llyfrau amdano
[golygu | golygu cod]- Roberts, Gomer Morgan (1951) Morgan Rhys, Llanfynydd (Cyfres yr emynwyr)