Morgan Rhys
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Morgan Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1716 ![]() Cil-y-cwm ![]() |
Bu farw | 9 Awst 1779 ![]() Llanfynydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | athro, emynydd ![]() |
Athro mewn ysgolion cylchynol ac emynydd oedd Morgan Rhys (1 Ebrill 1716 - 9 Awst 1779).
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed ef yn Efail-fach, Cilycwm, Sir Gaerfyrddin. Bu'n gweithio fel athro cylchynol mewn nifer o bentrefi yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion o 1757 hyd 1775. Ceir cyfeiriadau canmoliaethus ato yn adroddiadau'r Welch Piety. Claddwyd ef ym mynwent Llanfynydd ar 9 Awst 1779.
Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o emynau, a hefyd nifer o farwnadau i ffigyrau crefyddol. Ceir ei emynau yng nghasgliadau emynau pob enwad. Yn 2001 cyhoeddodd Gwasg Gregynog argraffiad cain o ddetholiad o'i emynau wedi'u golygu gan D. Simon Evans, gyda darluniau gan Rhiain M. Davies.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Golwg o Ben Nebo, ar Wlâd yr Addewid (Bryste, 1755, ail arg Caerfyrddin, 1764)
- Casgliad o Hymau (Caerfyrddin, 1757)
- Casgliad o Hymnau etc. (Caerfyrddin, 1760)
- Golwg ar Ddull y Byd (1767)
- Golwg ar Ddinas Noddfa (1770)
- Griddfanau'r Credadyn (1772)
- Griddfanau Credadyn (llyfr gwahanol), (c. 1774)
- Y Frwydr Ysprydol (1772-4)
Llyfrau amdano[golygu | golygu cod y dudalen]
- Roberts, Gomer Morgan (1951) Morgan Rhys, Llanfynydd (Cyfres yr emynwyr)