Neidio i'r cynnwys

Montserrat Roig

Oddi ar Wicipedia
Montserrat Roig
GanwydMontserrat Roig i Fransitorra Edit this on Wikidata
13 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 1991 Edit this on Wikidata
Barcelona Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, ysgrifennwr, program director Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEl temps de les cireres, Catalans in the Nazi camps Edit this on Wikidata
TadTomàs Roig i Llop Edit this on Wikidata
MamAlbina Fransitorra Aleñà Edit this on Wikidata
PriodJoaquim Sempere Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Serra d'Or Critics, Gwobr Òmnium ar gyfer Teledu, Gwobr Mercè Rodoreda, Gwobr Crítica Serra d'Or, Premi Sant Jordi de novel·la Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Montserrat Roig (13 Mehefin 1946 - 10 Tachwedd 1991) yn awdur nofelau, straeon byrion ac erthyglau o Gatalwnia. Roedd yn aelod o Gymdeithas Llenorion yr Iaith Gatalaneg ac yn is-lywydd ei Junta Territorial del Principat de Catalunya. Gweithiodd fel darlithydd mewn Catalaneg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bryste yn ystod y flwyddyn academaidd 1972-1973. Roedd Roig yn ffeminydd ac ar yr asgell chwith o wleidyddiaeth. Yn ferch ifanc, cymerodd ran ym mudiadau protest y myfyrwyr ym mlynyddoedd olaf Ffranco. Roedd hi ymhlith y llu o bobol deallusol Catalaneg a ymgynullodd ym mynachlog Montserrat i brotestio yn erbyn achos llys Burgos yn 1970.[1][2][3]

Ganwyd hi yn Barcelona yn 1946 a bu farw yn Barcelona yn 1991. Roedd hi'n blentyn i Tomàs Roig i Llop ac Albina Fransitorra Aleñà. Priododd hi Joaquim Sempere.[4][5][6][7]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Montserrat Roig yn ystod ei hoes, gan gynnwys;

  • Gwobr Serra d'Or Critics
  • Gwobr Òmnium ar gyfer Teledu
  • Gwobr Mercè Rodoreda
  • Gwobr Crítica Serra d'Or
  • Premi Sant Jordi de novel·la
  • Cyfeiriadau

    [golygu | golygu cod]
    1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120212746. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
    2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_319. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
    3. Gwobrau a dderbyniwyd: "Montserrat Roig i Fransitorra". https://web.archive.org/web/20171205042150/https://www.omnium.cat/contingut-programa/premi-omnium-de-comunicacio. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2021. https://www.omnium.cat/ca/projectes/premi-sant-jordi/palmares/. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2021.
    4. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120212746. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
    5. Dyddiad marw: "Montserrat Roig". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Montserrat Roig". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Montserrat Roig i Fransitorra".
    6. Man claddu: http://www.endrets.cat/index.php/indret/1915/tomba-de-montserrat-roig-montjuic-ca.html.
    7. Tad: "Montserrat Roig i Fransitorra".