Monas Hieroglyphica

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Glyph personol Dee, esboniodd ei ystyr yn fanwl yn ei lyfr Monas Hieroglyphica.

Symbol esoterig wedi'i lunio gan y Cymro John Dee, astrolegydd, mathemategwr, ac athro i Elisabeth I o Loegr, yw'r Monas Hieroglyphica (neu Hieroglyphic Monad). Dyma hefyd deitl ei lyfr a gyhoeddodd ar 14 Chwefror 1564 lle mae'n ymhelaethu ar arwyddocad y symbol.

Yn debyg i Waldo Williams (a'i syniad o 'deulu dyn', ganrifoedd yn ddiweddarach) fe wêl Dee y Cosmos yn un yn y symbol astrolegol hwn.

Mae'r glyph yn cynrychioli (o'r brig i'r gwaelod): y lloer, yr haul, yr elfennau a thân. Ond, er iddo nodi rhai o gyfrinachau'r llyfr, ni chafwyd eglurhad ysgrifenedig lawn, a saif llawer o'i gynnwys yn ddirgelwch llwyr. Mae'r llyfr yn tanlinellu cyswllt Dee gyda'r mudiad cwlt Ewropeaidd Rosicrucianism. Rhoddai'r mudiad hwn drefn esoterig i'r byd a hawliai fod gwreiddiau'r trefn hwn yn rhan o gyfrinachau'r gorffennol. Taflai oleuni ar natur a natur ffisegol y bydysawd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Pentagram (Levi).jpg Eginyn erthygl sydd uchod am yr ocwlt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.