Moel Faban
Gwedd
Moel Faban gydag Afon Menai yn y cefndir | |
| Math | bryn, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 408.7 metr |
| Cyfesurynnau | 53.19137°N 4.04576°W |
| Cod OS | SH6342167987 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 46 metr |
| Rhiant gopa | Carnedd Llywelyn |
| Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
![]() | |
Bryn sy'n rhan o'r Carneddau yn Eryri yw Moel Faban. Saif ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Bethesda, Gwynedd, gerllaw Rachub a Llanllechid, ac mae'n 408 medr o uchder.
Hynafiaethau
[golygu | golygu cod]Ceir nifer o garneddi ger y copa, ac olion tai o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn ar ei lechweddau dwyreiniol, yn cynnwys carneddau crynion Moel Faban.
Chwareli
[golygu | golygu cod]Ceir olion nifer o chwareli llechi gerllaw hefyd, yn cynnwys Chwarel Moelfaban ar ochr orllewinol y mynydd.
