Chwarel Moelfaban
Gwedd
| Math | chwarel lechi |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.19028°N 4.05414°W |
![]() | |
Chwarel lechi ger Bethesda yng Ngwynedd oedd Chwarel Moelfaban, hefyd Chwarel Moel Faban neu Chwarel y Foel. Saif ar lethrau gorllewinol Moel Faban, gerllaw pentref Rachub (Cyf. OS SH626679).
Agorodd y chwarel tua chanol y 19g. Fel Chwarel Pantdreiniog a Chwarel Tan-y-bwlch, gweithiwyd y chwarel yn gydweithredol yn ystod yr anghydfod diwydiannol yn Chwarel y Penrhyn yn 1900-1903. Ni fu erioed yn chwarel fawr; a chaeodd tua 1910.


Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)
