Meindwr
Rhan o bensaernïaeth mosg ydy minarét (lluosog: minaretau, minaréts)[1] neu minaréd (lluosog: minaredau)[2] (Arabeg Safonol: Manâra). Fel arfer, tŵr sy'n codi'n uwch na'r adeiladau eraill ydyw. Pwrpas yw minarét ydy darparu lle uchel i'r muezzin i alw pobl i weddïo.
Mae saith minarét i gyd yn y Mosg Mawr ym Mecca. Gan mai dyma'r mosg pwysicaf, dim ond uchafswm o chwe minarét sydd gan bob mosg arall, fel y Mosg Glas yn Istanbwl yn Nhwrci.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl rhai awdurdodau mae'r gair "minaret" yn deillio o'r bôn Arabeg adhân, sy'n golygu "galw". Daw tri air o'r bôn hwnnw:
- galw i weddïo (Arabeg: أذان ['aδān])
- muezzin (Arabeg: مُؤَذِّن [mu'waδδin])
- minaret (Arabeg : مِئْذَنة[mi'δana])
Fodd bynnag mae awdurdodau eraill yn dadlau mai'r gair Arabeg manâra ("goleudy; man lle ceir tân neu oleuni") yw ffynhonnell y gair "minaret (manara).
Mae'r ffurfiau Cymraeg "minarét" a "minaréd" yn dyddio o'r flwyddyn 1866.[2]
Cynseiliau pensaernïol posibl
[golygu | golygu cod]Awgrymir y canlynol fel cynseiliau pensaernïol i'r minarét:
- 1. Tyrau beddrod brodorol o ddiwedd y cyfnod clasurol, a welir yn Palmyra, er enghraifft.
- 2. Obelisgs yr hen Aifft.
- 3. Massebah - math arall o dyrau beddrod nodweddiadol Semitaidd
- 4. Goleudai'r Hen Fyd, e.e. Pharos Alexandria.
- 5. Datblygiad naturiol o onglau dyrchafedig y mosg Ummayad cyntaf ym Mecca (a hynny'n mwynhau awdurdod sancteiddrwydd).
Mathau o finarét
[golygu | golygu cod]Mae sawl math gwahanol o finarét gan ddibynnu ar arddull pensaernïol y mosg. Fel rheol caeth eu dosbarthu'n fras mewn tri dosbarth hanesyddol:
- Minaretau â gwaelod sgwâr - "arddull Gogledd Affrica".
- Minaretau "pibau organ" - "arddull Canolbarth Asia" ac Iran.
- Minaretau siâp nodwydd - "arddull Twrci".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [minaret].
- ↑ 2.0 2.1 Geiriadur Prifysgol Cymru, minarét[dolen farw].