Milk (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Milk

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Gus Van Sant
Cynhyrchydd Dan Jinks
Bruce Cohen
Ysgrifennwr Dustin Lance Black
Serennu Sean Penn
Emile Hirsch
Josh Brolin
Diego Luna
James Franco
Lucas Grabeel
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Focus Features
Dyddiad rhyddhau 26 Tachwedd, 2008
Amser rhedeg 128 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol

Mae Milk (2008) yn ffilm fywgraffiadol Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Gus Van Sant. Adrodda'r ffilm hanes bywyd y gwleidydd a'r ymgyrchydd hawliau hoywon Americanaidd Harvey Milk. Milk oedd y dyn hoyw agored cyntaf i gael ei ethol i swydd gyhoeddus yng Nghaliffornia fel aelod o Fwrdd Arolygwyr San Francisco. Cafodd y ffilm ei rhyddhau mewn rhai mannau'n unig ar y 26ain o Dachwedd, 2008.

Mae Milk wedi derbyn nifer o enwebiadau gan gynnwys enwebiad Golden Globe, tair enwebiad Gwobrau'r Gymdeithas Actorion Sgrîn a phedair BAFTA gan gynnwys un am y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau.

Cast[golygu | golygu cod]

Mae nifer o bobl a oedd yn adnabod Milk, gan gynnwys ei ysgrifennydd areithiau Frank M. Robinson, Allan Baird a Tom Ammiano yn portreadu eu hunain yn y ffilm. Mae Carol Ruth Silver, a gyd-weithiodd â Milk ar y Bwrdd o Arolygwyr hefyd yn chwarae rhan fechan yn y ffilm.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm fywgraffyddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm â thema LHDT. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.