Melissa McCarthy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Melissa McCarthy
Melissa McCarthy 2012 (Straighten Crop).jpg
McCarthy yn 2012
Ganwyd (1970-08-26) 26 Awst 1970 (48 oed)
Plainfield, Illinois, Yr Unol Daleithiau
Enwau eraillMelissa Ann McCarthy
Yn enwog amGilmore Girls, Bridesmaids
GalwedigaethActores, comediwraig, ysgrifenwraig, dylunwraig ffasiwn a chyfarwyddwraig

Mae Melissa Ann McCarthy (ganed 26 Awst 1970)[1] yn actores, comediwraig, dylunwraig ffasiwn a chyfarwyddwraig Americanaidd.

Daeth McCarthy i amlgygwrydd wedi iddi ymddangos fel Sookie St. James yn y gyfres deledu Gilmore Girls (2000-2007), ac ers hynny mae wedi serennu fel Dena yn y comedi sefyllfa ABC Samantha Who? (2007-2009) a fel Molly Flynn yn y comedi sefyllfa CBS Mike & Molly. Ar gyfer y rôl hon, enillodd Wobr Primetime Emmy am Brif Actores Ragorol mewn Cyfres Gomedi[2], yn ogystal â dau enwebiad am wobrau eraill. Fe'i henwebwyd hefyd am Wobr Primetime Emmy am Actores Wadd Ragorol mewn Cyfres Gomedi ar gyfer ei gwaith ar Saturday Night Live.

Enillodd gydnabyddiaeth bellach am ei rôl fel Megan Price yn y ffilm gomedi 2011 Bridesmaids, a fe'i henwebwyd am Wobr yr Academi am yr Actores Gefnogol Orau, enwebiad BAFTA ac enwebiad Gwobr Screen Actors Guild am yr Actores Gefnogol Orau.[3] Yn 2013, cyd-serennodd yn The Identity Theif a The Heat, hefyd yn ymddangos yn y ffimliau The Nines, The Back-up Plan, Life as We Know It a The Hangover Part III. Yn 2014, serennodd McCarthy yn y comedi Tammy a'r ffilm gomedi-ddrama St Vincent. Yn 2015, hi oedd prif seren y ffilm acsiwn comedi Spy, ac yn 2016 bydd yn serennu yn ffilmiau Michelle Darnell a Ghostbusters.

Sefydlodd McCarthy y cwmni cynhyrchu On the Day Productions gyda'i gŵr Ben Falcone. Yn 2015, derbyniodd seren ar y Hollywood Walk of Fame, a rhyddhaodd casgliad dillad o'r enw Melissa McCarthy Seven7, ar gyfer merched sy'n gwisgo meintiau mwy. Hefyd yn 2015, fe'i henwyd fel yr actores sy'n ennill y trydydd swm mwyaf yn y byd gan Forbes.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]