Mausoleum Halicarnassus
Math | Rhyfeddod yr Henfyd, mawsolëwm, safle archaeolegol Groeg yr Henfyd, adfeilion, amgueddfa, cyn-adeilad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mausolus |
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Saith Rhyfeddod yr Henfyd |
Sir | Bodrum, Talaith Muğla |
Gwlad | Twrci |
Cyfesurynnau | 37.03794°N 27.4241°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth glasurol |
Perchnogaeth | Artaxerxes III, brenin Persia |
Cofadail mawreddog yw'r Mausoleum (Groeg Μαυσολειον) a godwyd yn ninas Halicarnassos yn nhalaith Caria yn Asia Leiaf er anrhydedd y brenin Mausolus yn 352 CC gan ei wraig Artemisia. Mae'n un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.
O ran ei adeiladwaith roedd iddo is-strwythr hirsgwar mawr, 440 troedfedd o gwmpas, wedi ei amgylchynu gan 36 colofn, ac wedi ei goroni gan byramid 24 gradd gyda quadriga (cerbyd pedwar march) ar ei gopa, yn ôl Pliny'r Hynaf (Naturalis Historia xxxvi, 30-31). Uchder y cofadail oedd 140 troedfedd ac roedd wedi'i baentio â phob lliw dan haul. Satyrus a Pythius oedd y penseiri a gwaith y cerflunwyr enwog Scopas, Bryaxis, Timotheus a Leochares oedd y cerfluniau ar hyd ei ochrau.
Roedd y Mausoleum mewn cyflwr da hyd at y 12g OC ond dirywio fu ei hanes ar ôl hynny. Daeth Marchogion St John i'r ardal ar ddiwedd y 14g a dechrau ei ddefnyddio fel chwarel. Yn goron ar y fandaliaeth hon, toddwyd y cerfluniau marmor i wneud gwyngalch ar gyfer eu caer yn 1522. Darganfuwyd olion yr adeilad o'r newydd yn 1857 a symudwyd drylliau o'r cerfluniau i'r Amgueddfa Brydeinig. Mae gwaith archaeolegol diweddar wedi datguddio safle'r Mausoleum ond ychydig sy'n aros ohono.
Rhoddwyd yr enw mausoleum gan y Rhufeiniaid ar eu cofadeilion hwythau, gan gynnwys Beddrod Hadrian yn Rhufain (Castell Sant Angelo heddiw).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (argraffiad newydd, Llundain, 1902)
- Jean-Pierre Thiollet, Bodream, Anagramme Ed., 2010, ISBN 978-2-35035-279-4.