Artaxerxes III, brenin Persia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Artaxerxes III, brenin Persia
Artaxerxes III of Persia.jpg
Ganwyd 425 BCE Edit this on Wikidata
Bu farw 338 BCE Edit this on Wikidata (0 oed)
Babilon Edit this on Wikidata
Gwaith Brenin neu frenhines edit this on wikidata
Priod Atossa Edit this on Wikidata
Plant Artaxerxes IV, brenin Persia, Parysatis II Edit this on Wikidata
Teulu Arsamès, Apama, Rhodogune, Atossa Edit this on Wikidata
Llinach Brenhinllyn yr Achaemenid[*]

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 358 CC a 338 CC oedd Artaxerxes III, brenin Persia, (Hen Berseg: Artaxšaçrā, c. 425 CC - 338 CC), enw gwreiddiol Ochus.

Roedd yn fab i Artaxerxes II. Bu'n satrap ac yn gadfridog cyn olynu ei dad ar yr orsedd yn 358 CC. Roedd un o'i frodyr wedi ei ddienyddio ac un arall wedi ei ladd ei hun cyn marwolaeth Artaxerxes II yn 90 oed. Llofruddiodd Artaxerxes III y gweddill o'r teulu brenhinol wedi dod i'r orsedd.

Bu'n ymgyrchu yn yr Aifft ddwywaith. Methodd yr ymgyrch gyntaf, ond yn 343 CC, gorchfygodd Artaxerxes frenin yr Aifft, Nectanebo II, a'i yrru o'r wlad, gan ddychwelyd yr Aifft i'r Ymerodraeth.

Olynwyd ef gan ei fab, Arses, fel Artaxerxes IV.

Rhagflaenydd :
Artaxerxes II
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia
Artaxerxes III
Olynydd :
Artaxerxes IV