Matt Smith

Oddi ar Wicipedia
Matt Smith
Ganwyd28 Hydref 1982 Edit this on Wikidata
Northampton Edit this on Wikidata
Man preswylNorthampton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Dwyrain Anglia
  • Northampton School for Boys
  • National Youth Theatre Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan, actor, cyfrifydd Edit this on Wikidata

Actor llwyfan a theledu Seisnig yw Matthew Robert "Matt" Smith (ganwyd 28 Hydref 1982). Ar ôl cyfnod fel pêl-droediwr ifanc, daeth Smith yn actor wedi iddo ddioddef o anaf i'w gefn. Daeth ei berfformiad cyntaf yn y ddrama Murder in the Cathedral fel rhan o'r Theatr Ieuenctid Cenedlaethol. Daeth yn actor proffesiynol yn 2003, gan serennu ochr yn ochr â Christian Slater yn Fresh Kills a Swimming With Sharks.

Ei rôl deledu amlycaf cyntaf oedd fel Jim Taylor yn addasiad y BBC o The Ruby in the Smoke a The Shadow in the North gan Phillip Pullman yn 2003. Cafodd ei rôl deledu flaenllaw cyntaf yn 2007 pan chwaraeodd ran Danny yng nghyfres y BBC Party Animals. Yn 2009, dewiswyd Smith fel yr unfed actor ar ddeg i chwarae rhan y Doctor yn y gyfres deledu Brydeinig, Doctor Who, yr actor ieuengaf i dderbyn y rôl ar y pryd. Gadawodd y gyfres ar ddiwedd ei rhaglen Dydd Nadolig yn 2013. Ers Doctor Who y mae wedi mynd yn ei flaen i bortreadu ymgorfforiad corfforol Skynet yn Terminator Genisys yn 2015 ac o 2016 i 2017, i chwarae rhan y Tywysog Philip, Dug Caeredin yn nrama hanesyddol Netflix, The Crown.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

  • Falling (2005)
  • In Bruges (2008)
  • Pride and Prejudice and Zombies (2016)

Teledu[golygu | golygu cod]

  • The Ruby in the Smoke (2006)
  • The Secret Diary of a Call Girl (2007)
  • Moses Jones (2009)
  • Christopher and his Kind (2010)
  • Doctor Who (2010-2013)


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.